Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Prif Weithredwr yn rhoi’r gorau i’w swydd ar ôl 40 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus 

Published: 11/01/2021

Everett, Colin smallest.jpgYn dilyn gyrfa o dros 40 mlynedd yn gwasanaethu’r cyhoedd, mae Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd yn nes ymlaen eleni.

Ar ôl ymuno â’r Cyngor yn ôl yn 2007, mae Colin wedi ymroi 14 mlynedd diwethaf ei yrfa i wasanaethu Sir y Fflint a rhanbarth Gogledd Cymru. Bu’n gweithio i bum cyngor arall a dau sefydliad cenedlaethol cyn ymrwymo ei ddyfodol i Sir y Fflint, gyda phob un ond chwech o’i flynyddoedd o waith wedi’u treulio yng Nghymru, ei wlad enedigol.

Yn ystod ei gyfnod yma, mae Colin wedi gweithio’n ddiflino i’r Cyngor a’r bobl y mae’n eu gwasanaethu drwy gyfnodau o ansicrwydd ariannol mawr yn y sector cyhoeddus, ac yn ddiweddarach drwy’r argyfwng hirfaith hwn.   Mae wedi helpu datblygu’r Cyngor yn awdurdod lleol blaengar sy’n perfformio’n dda. 

Mae Colin wedi cyfrannu i ddatblygiad Gogledd Cymru fel rhanbarth unedig sy’n gweithio gyda’i gilydd yn gydweithredol. Bu iddo arwain y caffaeliad rhanbarthol mwyaf erioed, sef canolfan troi gwastraff yn ynni Parc Adfer, a chyd-arwain Bargen Dwf Economaidd Gogledd Cymru, a gymeradwywyd gan Weinidogion y ddwy Lywodraeth y mis diwethaf. Mae Colin hefyd wedi chwarae rhan bwysig yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac ef yw’r Swyddog Canlyniadau arweiniol ar gyfer etholiadau a diwygiad etholiadol yng Nghymru.

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:

“Pan ddechreuais i weithio ym maes llywodraeth leol ar ôl gadael yr ysgol, roedd gen i uchelgais i gyflawni 40 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus, ac i wneud gwahaniaeth. Roedd wastad yn fwriad gen i roi’r gorau i weithio’n llawn amser yng nghanol 2021 ar ôl cyrraedd y garreg filltir bersonol hon. Fodd bynnag, yn sgil y pandemig, penderfynais oedi fy nghynlluniau personol am ychydig fisoedd er mwyn gallu parhau i gefnogi Sir y Fflint a’r rhanbarth drwy’r cyfnod anodd hwn.  Gyda’r brechiad bellach yn cychwyn cael ei gyflwyno, mae gennym obaith o’r newydd y byddwn yn gweld cefn y pandemig yn 2021. Rwy’n falch iawn o’r Cyngor hwn yr wyf wedi cael y fraint o'i arwain a'i wasanaethu. Mae wedi bod yn anrhydedd cael gweithio gyda chymaint o gydweithwyr a phartneriaid galluog ac ymroddedig, yn lleol ac yn rhanbarthol.”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor: 

“Yn y pedair blynedd ar ddeg y mae Colin wedi bod yma yn Sir y Fflint, mae wedi gwneud cyfraniad helaeth, yn bersonol ac yn broffesiynol, i’r Cyngor, i ranbarth Gogledd Cymru ac i Gymru gyfan. 

“Fel Prif Weithredwr, mae wedi arwain y Cyngor drwy gyfnod sylweddol ac estynedig o gyni cyllidol, sydd wedi mynnu lefelau o newid a moderneiddio heb eu tebyg.  Drwy ei arweinyddiaeth, ei waith caled a’i ymrwymiad, mae’r holl swyddogion ac aelodau wedi cydweithio i sicrhau bod Sir y Fflint yn cyrraedd y safle cadarn y mae ynddo heddiw.  

“Pe na bai ansicrwydd ariannol y ddegawd ddiwethaf yn ddigon, mae’r pandemig presennol wedi dod â’i heriau ei hun, ac nid yw’n syndod fod ymroddiad Colin wedi dod i’r amlwg unwaith eto, yn rhoi anghenion Sir y Fflint  a rhanbarth Gogledd Cymru o flaen ei gynlluniau personol. 

“Roedd y gefnogaeth a gefais gan Colin pan gychwynnais i yn fy swydd fel Arweinydd y Cyngor yn amhrisiadwy, ac fe hoffwn ddiolch iddo nid yn unig am ei gymorth yn ystod fy misoedd cyntaf, ond am y gefnogaeth y mae’n parhau i’w rhoi i mi.   

“Er y byddwn yn gweld bwlch enfawr ar ôl iddo adael, fel un o’r Prif Weithredwyr sydd wedi gwasanaethu hiraf yng Nghymru, mae’n gadael etifeddiaeth gadarn a hirhoedlog ar ei ôl.”  

Mae amserlen ar gyfer recriwtio olynydd i Colin wrthi’n cael ei datblygu a bydd yn cael ei chyflwyno ger bron y Cyngor Sir yn y gwanwyn.