Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir Y Fflint yn cyrraedd Rhestr Fer Gwobrau Hearts for the Arts 2021

Published: 14/01/2021

Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Hearts For The Arts 2021 gan National Campaign for the Arts (NCA) wedi cael ei chyhoeddi. Mae’r gwobrau’n dathlu arwyr di-glod Awdurdodau Lleol sydd yn cefnogi artistiaid er gwaethaf popeth. 

Fe enwebwyd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Prosiect Best Arts ar gyfer Summer Hubs – rhaglen hwyliog a chreadigol a luniwyd gan Gyngor Sir y Fflint a Theatr Clwyd i bobl ifanc oedd angen cefnogaeth ychwanegol yn sgil effaith y cyfnod clo. 

Bydd panel o feirniaid o arbenigwyr gweithwyr o’r diwydiant celfyddydau yn dewis enillwyr eleni, yn cynnwys: 

Le Gateau Chocolat, Artist ‘drag’ a pherfformiwr cabare 

Paul Hartnoll, cerddor, cyfansoddwr, aelod sefydlu Orbital

Adrian Lester CBE, actor a chyfarwyddwr

Petra Roberts, Rheolwr Datblygu Diwylliannol, Cyngor Hackney (enillwyr Gwyl Cenhedlaeth Windrush 2020)

Samuel West, actor, cyfarwyddwr, Cadeirydd National Campaign For the Arts

Er gwaetha’r caledi anhygoel y wynebodd Awdurdodau Lleol yn 2020, mae’r NCA wedi derbyn y niferoedd uchaf erioed o enwebiadau eleni, wrth i gymunedau lleol droi at gelfyddydau i gael diddanwch, cryfder ac i gysylltu ag eraill yn ystod y pandemig. 

Derbyniwyd enwebiadau o bob rhan o’r DU ar gyfer tri chategori’r gwobrau: Prosiect Celfyddydau Gorau; Cefnogwr Celfyddydau Gorau - Awdurdod Lleol neu Weithiwr Ymddiriedolaeth Diwylliannol; a Chefnogwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd. 

Cafodd y rhestr fer ei beirniadu gan gynrychiolwyr o rai o bartneriaid y gwobrau eleni: Culture Counts; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; Cymdeithas Llywodraeth Leol; National Campaign for the Arts; a Celfyddydau Gwirfoddol Cymru.

Gan sôn am Summer Hubs ac enwebiad Sir y Fflint, dywedodd partneriaid Gwobr Hearts for the Arts: 

“Partneriaeth wych rhwng Cyngor a theatr yn cefnogi lles pobl ifanc, y dylid ei ddefnyddio fel model i eraill. Prosiect pwysig wedi’i dargedu at blant diamddiffyn a rhoi cefnogaeth a gweithgareddau creadigol mawr eu hangen iddynt yn ystod diwrnodau anodd y cyfnod clo. Mae’n ein atgoffa nad oedd pob gweithgaredd ymgysylltu yn ystod Covid-19 yn digwydd dros y we: mae’n wych bod y prosiect yma wedi llwyddo i gyflwyno rhaglen mor gynhwysfawr o weithgareddau gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.”

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:

“Roedd gweithio gyda Theatr Clwyd yn help mawr i ddarparu seibiant i rai o’r teuluoedd rydym ni’n gweithio â nhw yn Sir y Fflint – fe wnaeth gwahaniaeth enfawr i weithio gyda sefydliadau creadigol a dysgu gan eu gilydd – mae’n rhywbeth y byddwn ni bendant yn parhau i wneud i helpu ein cymunedau.” 

Meddai Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd:

“Mae gweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint i ddarparu seibiant creadigol i blant bregus yn ystod y pandemig wedi bod yn drawsnewidiol mewn sawl ffordd. Yn bwysicaf oll, dywedodd y bobl ifanc wrthym yn uniongyrchol pa wahaniaeth a wnaeth iddynt ("dyma fy lle hapus" meddai un), fel y dywedodd y gweithwyr proffesiynol hefyd. Oherwydd y gwaith yma rydym eisoes yn datblygu ein hymarferion ar y cyd i ddarparu ffyrdd newydd a chreadigol o gefnogi'r rhai mwyaf bregys ein cymunedau - bydd gwaith yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r dyfodol.

Bydd enillwyr Gwobrau Hearts For The Arts 2021 yn cael eu cyhoeddi ar Ddydd San Ffolant, 14 Chwefror. 

Mae National Campaign for the Arts yn cyflwyno Gwobrau Hearts For The Arts bob blwyddyn. Caiff y gwobrau eu cyflwyno gan NCA, mewn partneriaeth â Culture Counts; Cymdeithas Llywodraeth Leol; Thrive; UK Theatre; Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhai sydd ar y rhestr fer, ewch i forthearts.org.uk/campaigns/hearts-for-the-arts.