Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy

Published: 28/09/2015

Mae cannoedd o fagiau o sbwriel wedi eu casglu gan wirfoddolwyr sydd hefyd wedi plannu bylbiau a rhoi wyneb newydd i lwybrau yn ystod digwyddiad blynyddol eleni o Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy. Cymerodd tua 400 o wirfoddolwyr o ysgolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau ran yn y digwyddiad deuddydd ar 18 a 19 Medi i lanhau a gwella dalgylch yr Afon Dyfrdwy. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Gyngor Sir y Fflint gan gynnwys asiantaethau partner ar draws Caer, Gogledd Cymru a Chilgwri yn cynnwys Gorllewin Caer a Chaer, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyda chefnogaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol Cymru. Dyma rai enghreifftiau or gwaith gwych a wnaed yn ystod y ddau ddiwrnod: Ymunodd ceidwaid cefn gwlad Sir y Fflint gyda gwirfoddolwyr o gymdeithas Rhandiroedd Lôn y Felin a staff Groundwork i glirior llanast a dipiwyd yn anghyfreithlon yn Nant Gwepra yng Nghei Connah. Casglwyd deuddeg o deiars ceir, oergell a rhewgell, hen ffensys gwifren, berfa, taflenni metel wedi rhydu a dros 46 o fagiau o sbwriel. Dywedodd Karen Rippin, Warden Cefn Gwlad: “Gwirfoddolwr ieuengaf y grwp oedd plentyn 6 oed a’r hynaf yn 84 oed. Roedd yn bleser gweithio gyda grwp mor amrywiol o bobl sydd yn amlwg iawn eisiau rhannu eu brwdfrydedd dros yr amgylchedd. Rydym yn diolch hefyd i Stephen Parkinson o Taclo Tipio Cymru a noddodd y sgip ac i Judith Wright o Cadwch Gymrun Daclus a ddarparodd menig, bagiau sbwriel a chodwyr sbwriel.” Gweithiodd gwirfoddolwyr o Tesco gyda cheidwaid i lenwi dau sgip a hanner a chasglu 52 o fagiau llawn sbwriel o ardal Lôn Cemeg ym Mhentre, Glannau Dyfrdwy. Mae staff o Airbus a myfyrwyr o Goleg Llysfasi wedi gweithion ddygn i glirio sbwriel o ddwy ochr yr afon ym mhont droed Saltney Ferry. Mae gwirfoddolwyr o Sustrans wedi casglu 10 bag o sbwriel a 5 bag o ganiau o Wepre tra bod staff a myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Cei Connah wedi gweithion galed yn casglu sbwriel o ardal The Rock yn y dref. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Roedd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni yn llwyddiant ysgubol a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith caled o wneud y cyfan yn bosib. Maen enghraifft go iawn o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus ac rwyf wrth fy modd o fod yn rhan o’r holl beth. Roedd yn ymdrech wych gan bawb a gymerodd rhan. Dechreuodd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy gyda digwyddiad lansio dros frecwast yn Chocks Away Diner ym Maes Awyr Penarlâg a chyflwynwyd gwobrau i nifer o sefydliadau am eu gwaith ymroddedig i warchod yr amgylchedd yn ystod y 12 mis diwethaf. Llongyfarchiadau ir enillwyr: Tata Shotton, Presthaven Sands ac Ysgol Uwchradd Cei Connah a Martin Redhead. Capsiwn- Gwirfoddolwyr o Gymdeithas Rhandiroedd Lôn y Felin a staff Groundwork ar ôl eu gwaith o lanhau yn Nant Gwepra