Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		E-filiau
  		Published: 19/05/2014
Mae dros 1,000 o breswylwyr a busnesau wedi manteisio ar yr opsiwn newydd i 
dderbyn eu biliau treth gyngor trwy e-bost ers iddo gael ei gyflwyno ym mis 
Ionawr.
Mae’r gwasanaeth e-filio newydd yn hollol ddi-dâl ac mae’n golygu bod 
preswylwyr a busnesau, yn lle derbyn bil papur traddodiadol, yn gallu dewis 
derbyn eu bil trwy e-bost.
Gydag e-byst yn cael eu hanfon allan ar eu hunion nid oes byth unrhyw broblem 
gyda biliau’n cael eu dal yn ôl yn y post ac mae pobl sy’n ymgofrestru i 
dderbyn biliau yn electronig yn dal i fod â’r dewis o lawrlwytho a phrintio’u 
biliau eu hunain os bydd angen, fel bod cwsmeriaid bellach yn gallu cael at eu 
bil 24 awr y dydd.
I Gyngor Sir y Fflint, mae e-filio yn lleihau cost, mae’n lleihau effaith 
amgylcheddol biliau papur ac mae’n helpu i gwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid, y 
mae llawer ohonynt wedi arfer ymdrin â biliau a thaliadau ar-lein yn barod.
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod y Cabinet dros Lywodraethu 
Corfforaethol: “Mae’n arfer cyffredin y dyddiau hyn i gwsmeriaid gael yr opsiwn 
o dderbyn a thalu biliau yn electronig, ac mae’n braf gweld bod dros 1,000 o 
breswylwyr yn manteisio ar y gwasanaeth hwn yn barod.” 
Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd y Cyngor yn rhoi cyhoeddusrwydd eang i’w 
gyfleuster 
e-filio newydd yn ystod sgyrsiau wyneb yn wyneb neu drwy alwadau ffôn gyda 
phobl, gyda’r nod o ychwanegu eu henwau at y rhestr gynyddol o breswylwyr a 
busnesau sy’n dewis derbyn eu biliau yn electronig.
Os yw pobl yn dymuno cael at eu biliau yn electronig ond nad oes ganddynt 
fynediad at y rhyngrwyd, byddent yn cael eu cyfeirio at ddefnyddio 
Cyfrifiaduron Personol sydd ar gael yn eu llyfrgell leol neu Ganolfan Sir y 
Fflint yn Cysylltu leol. 
I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth e-filio ar-lein newydd cysylltwch â 
gwasanaeth Refeniw Sir y Fflint ar 01352 704848 neu ymgofrestrwch ar-lein ar 
www.flintshire.gov.uk/ebilling.