Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Busnes NEW Homes

Published: 05/10/2015

Bydd cynlluniau ar gyfer twf NEW Homes at y dyfodol, fel y nodwyd yn ei Gynllun Busnes ar gyfer y pum lynedd nesaf, yn cael eu hystyried gan Gynghorwyr Sir y Fflint. Fe sefydlwyd NEW Homes ym mis Ebrill 2014 i gefnogi twf y Cyngor yn yr ystod o ddewisiadau tai yn y farchnad dai leol. Maer cynigion yn cynnwys cyflwyno 300 o dai fforddiadwy newydd ledled y sir dros y pum mlynedd nesaf trwy Raglen Tai ac Adfywio Strategol (RhTAS) y Cyngor. Disgwylir i’r cynllun cyntaf gael ei adeiladu yn The Walks, Fflint a fydd yn cynnwys hyd at 50 o dai fforddiadwy ar hen safle fflatiau deulawr. Disgwylir i NEW Homes hefyd dderbyn 16 o adeiladau newydd gan ddatblygwyr, gan ddiwallu eu goblygiadau darpariaeth tai fforddiadwy drwy Gytundebau Adran 106. Bydd yr unedau hyn yn cael eu trosglwyddo ir cwmni gael eu gosod fel tai fforddiadwy. Mae cynlluniau hefyd ar waith i gaffael wyth o unedau tai iw gosod ar renti fforddiadwy. Yn ogystal â rhentu ei eiddo ei hun, mae NEW Homes yn rhedeg ystod o gynigion ar gyfer landlordiaid sydd i gyd yn cynnwys gwasanaethau parod i denantiaid’. Maer cwmni yn cynnig gwasanaeth gosod a rheoli eiddo a reolir yn llawn, a chynnig unigryw i berchnogion tai dros 55 oed i brydlesu eu heiddo ir cwmni a chael mynediad i eiddo cyngor addas. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd NEW Homes: “Fe sefydlwyd NEW Homes i gynnig tai amgen, fforddiadwy i bobl leol, sydd naill ai methu fforddio rhenti landlordiaid preifat uchel, a/neu ddim yn gymwys ar gyfer ty Cyngor. Rwyf wrth fy modd bod y cynllun arloesol hwn eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiwallu anghenion tai lleol drwy ddarparu nifer o wahanol ffyrdd y gall pobl ddod o hyd i gartrefi fforddiadwy”. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai: “Cyngor Sir y Fflint oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hun a chafodd y cynllun arloesol hwn ei gydnabod ar lefel genedlaethol ym mis Tachwedd 2014 pan enillodd y Cyngor wobr Sefydliad Tai Siartredig ‘Syniad Newydd y Flwyddyn’ am fod yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hun. “Rwyn falch iawn â’r cynnydd y mae NEW Homes wedi’i wneud mewn amser cymharol fyr ers ei sefydlu. Maen cynnig gwasanaeth gwych i drigolion sydd angen rhenti yn fwy fforddiadwy a bydd yn gwella’r dewisiadau tai sydd ar gael i’n trigolion yn sylweddol. Maer cwmni hefyd yn cynnig gwasanaethau i landlordiaid.” Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn falch iawn o NEW Homes a’r ffaith mai Sir y Fflint yw’r cyngor cyntaf yng Nghymru i gymryd camau uniongyrchol i fynd i’r afael â phroblemau anghenion tai yn lleol. Mae’n bleser gen i fod NEW Homes yn gwireddu ein huchelgeisiau mewn modd ymarferol.” Bydd Pwyllgor Craffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn ystyried yr adroddiad ddydd Mercher, 7 Hydref a gofynnir i Gabinet y Cyngor gymeradwyor Cynllun Busnes yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 13 Hydref. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: http://www.northeastwaleshomes.co.uk/