Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Golwg tua’r Dyfodol

Published: 06/10/2015

Mae pobl yn cael eu gwahodd i deithio ymlaen mewn amser ac edrych ar sut olwg allai fod ar y ganolfan llyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Cyhoeddodd y Cyngor Sir gynigion i foderneiddio ac ail-lunio gwasanaethau llyfrgell yn Sir y Fflint ym mis Mawrth ac roeddent yn cynnwys cynnig am ganolfan llyfrgell newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i wasanaethu cymunedau Penarlâg, Mancot a Queensferry, lle mae’r cyfleusterau sydd yno ar hyn o bryd yn rhai rhan-amser, mewn adeiladau hen ffasiwn nad ydynt yn cael llawer o ddefnydd. Cynhaliwyd ymgynghoriadau ynglyn â’r cynigion yn y cymunedau yr effeithir arnynt. Er bod pobl yn cydnabod y bydd er budd cyffredinol y ddarpariaeth llyfrgelloedd i’r dyfodol i fwrw ymlaen â datblygu canolfan newydd, roedd llawer o ddefnyddwyr y llyfrgelloedd hefyd yn pwysleisio bod rhaid cynllunio’r gwasanaeth i adlewyrchur tair cymuned leol, a gofyn hefyd i’r gwasanaeth gael ei ategu gan wasanaethau ychwanegol sy’n seiliedig yn y gymuned ynghyd ag ystyried Trosglwyddo Ased Cymunedol. Disgwylir ir ganolfan newydd gostio oddeutu £130,000, gydar rhan fwyaf or cyllid - dros £90,000 - yn dod o grant CyMAL. Bydd hefyd yn arbed oddeutu £50,000 y flwyddyn i’r gwasanaeth llyfrgell. Mae cynlluniau ar gyfer y llyfrgell newydd yn dod at ei gilydd nawr ac mae defnyddwyr y llyfrgell ac aelodau or cyhoedd yn cael eu gwahodd i alw i mewn i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy unrhyw adeg rhwng 5pm a 7pm ddydd Iau 15 Hydref i weld lle y bydd y llyfrgell a dweud eu dweud ar y weledigaeth ar gyfer y dyfodol, cynllun modern / traddodiadol y llyfrgell, dewisiadau llyfrau yn y dyfodol, catalog ar-lein a chyfleusterau hunanwasanaeth. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg “Er ein bod wedi cynnal ein rhwydwaith llyfrgelloedd yn Sir y Fflint, maen rhaid i ni nawr edrych ar ffyrdd gwahanol o ddarparur gwasanaeth, cadw ei ansawdd a gwellar cyfleusterau sydd ar gael. “Mae hwn yn gyfnod cyffrous yn nyluniad y ganolfan llyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ac rwyn gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle i alw heibio a gweld drostynt eu hunain sut y gallai’r cyfleuster newydd hwn agor y drysau i ddefnyddwyr y llyfrgell i brofir ystod ardderchog o gyfleusterau hamdden a sba sydd gan y ganolfan iw cynnig a darparu mynediad hawdd i ddefnyddwyr hamdden i lyfrau, cyfrifiaduron a chyfleoedd astudio.”