Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 10-17 Hydref

Published: 07/10/2015

Maen Wythnos Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 10 - 17 Hydref. Yn rhan o ymgyrch genedlaethol Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint wedi dod ynghyd âi bartneriaid i dynnu sylw at y broblem o droseddau casineb ac i annog dioddefwyr i’w riportio. Drwy gydol yr wythnos, bydd partneriaid ar draws gogledd Cymru yn gweithio â grwpiau lleol a sefydliadau cymunedol i godi ymwybyddiaeth ac i annog bod achosion o drosedd casineb yn cael eu riportio. Byddant hefyd yn hyrwyddo’r gwasanaethau cymorth ac adnoddau sydd ar gael yn lleol. Trosedd o gasineb yw trosedd yn erbyn unigolyn neu grwp o bobl ar sail eu hunaniaeth neu eu gwahaniaeth canfyddiedig. Gall fod yn weithred o drosedd, gelyniaeth neu wahaniaethu. Efallai y bydd dioddefwyr wedi cael eu bwlio, eu haflonyddu neu eu cam-drin oherwydd pwy ydynt, eu rhywioldeb, eu rhyw, crefydd ethnigrwydd neu ddewis ffordd o fyw. Gall y drosedd fod ar lafar, ar ffurf graffiti tramgwyddus, bygythiadau, difrod i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun sarhaus, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Derbynnir yn gyffredinol nad oes digon o adrodd am achosion o droseddau casineb a gall gael effaith sylweddol ar ei ddioddefwyr, a ni ddylent orfod dioddef yn dawel. Rwyn falch bod Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn ceisio codi proffil y mater pwysig hwn.” Dylid riportio achosion o Drosedd Casineb drwy ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (999 mewn achos o argyfwng) neu linell gymorth 24 awr am ddim Cymorth i Ddioddefwyr ar 0300 30 31 982 neu ar-lein www.reporthate.victimsupport.org.uk