Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Published: 09/10/2015

Bydd perfformiad Cyngor Sir y Fflint yn ystod 2014-15 yn cael ei drafod mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth 13 Hydref cyn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor. Maer adroddiad yn adolygu cynnydd y Cyngor yn erbyn y blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Gwella 2014/15 ac yn crynhoi llwyddiannaur sefydliad. Y llynedd, llwyddodd y Cyngor: · I ragori ar y rhan fwyaf on targedau ar addewidion a wnaed yn y ddogfen Dewisiadau Tenantiaid am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan gynnwys: uwchraddio 966 system wresogi, 1023 cegin newydd a 127 ystafell ymolchi newydd · Cwblhawyd 1,235 o atgyfeiriadau ar gyfer ail-alluogi yn ystod y flwyddyn, gyda 78% o bobl angen llai o gefnogaeth neu ddim cefnogaeth bellach yn dilyn cyfnod o ail-alluogi · Gweithredu’r Gwasanaeth Cefnogi Teuluoedd Integredig · Cynnydd sylweddol gydar gwaith o adfywio Fflint, gan gynnwys dymchwel y fflatiau deulawr a bydd tai canol tref newydd yn cael eu hadeiladu yn eu lle · O dan y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif cymeradwywyd yr achos busnes llawn ar gyfer y rhaglen Band A gan Lywodraeth Cymru, Ionawr 2015 ar gyfer datblygiad Campws Dysgu Treffynnon ar Ganolfan ôl-16 yng yng Ngholeg Cambria. Maer ddau brosiect adeiladu wedi dechrau. · Roedd 99.6% o bobl ifanc 16 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (yr uchaf a gyflawnwyd erioed) o ganlyniad i i waith partneriaeth da a defnydd effeithiol or tîm Cefnogaeth Bersonol. · Cwblhawyd y cam olaf o barthau 20 milltir yr awr y tu allan i ysgolion · Cwblhawyd Coridor Cysoni Glannau Dyfrdwy; gwella llif y traffig ar hyd y Coridor Glannau Dyfrdwy B5129. · Cefnogwyd creu 1,012 o swyddi newydd o fewn DEZ, cynnydd sylweddol or 838 a adroddwyd yn 2013/14. · Cefnogwyd saith busnes yn Sir y Fflint i sefydlu, arallgyfeirio neu ehangu fel mentrau cymdeithasol a datblygu rhwydwaith o gefnogaeth i fentrau cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru gan ymuno gydar pum awdurdod lleol eraill ac asiantaethau cefnogi posibl. · Cyflawnwyd cynnydd da gydar Rhwydwaith Menter Busnes Sir y Fflint sydd bellach yn nodedig fel arfer gorau ac yn cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru am ei ragoriaeth · Rhoddwyd cymorth a chefnogaeth ariannol i 59 o unigolion a 2 grwp iw galluogi i sefydlu micro-fenter newydd drwyr Prosiect Menter Sir y Fflint. Dywedodd y Prif Weithredwr Colin Everett “Maer cyngor yn parhau i fod yn awdurdod syn perfformion dda syn cyflawni’n dda yn erbyn ei amcanion mawr ac yn gwneud cynnydd da neu foddhaol mewn 97% ohonynt. Yn ogystal, mae perfformiad y Cyngor, y gellir ei dracio dros amser yn dangos cyfradd gwelliant o 63% ac mae yn y rheng uchaf mewn 13% o fesurau. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: “Maer Cyngor wedi profi unwaith eto i fod yn sefydliad syn perfformion dda, gosod targedau a chyrraedd y blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Gwella. Mae’r gwelliant cyson hwn flwyddyn ar ôl blwyddyn yn golygu gwell gwasanaethau i drigolion. Maen rhaid ir Adroddiad gael ei gyhoeddi erbyn 31 Hydref ac mae cyfarfod arbennig o’r Cyngor wedi cael ei drefnu ar gyfer 20 o Hydref i ofyn am gymeradwyo’r Adroddiad ar gyfer cyhoeddi.