Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Theatr Clwyd

Published: 09/10/2015

Mae Theatr Clwyd yn anelu at fod yn gyrchfan ddiwylliannol or radd flaenaf ac yn symbol o arloesi ar draws y celfyddydau creadigol yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Mewn adroddiad diweddaru ar gynllun busnes y theatr, dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig newydd, Tamara Harvey, ei bod yn ymroddedig i ehangur rhaglen artistig, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd ac ymestyn cysylltiadau lleol y theatr er mwyn sicrhau ei bod yn ganolbwynt celfyddydol hanfodol a bywiog wrth wraidd y gymuned. Yn yr adroddiad a fydd yn mynd gerbron Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar 13 Hydref, mae Tamara Harvey yn dweud bod y theatr ar y trywydd iawn i gyflawni arbedion o £234,000 ar gyfer 2015/16 o ganlyniad i lai o gyllid, ac mae cynlluniau cyffrous ar waith i arallgyfeirio ei chynnig i ddod âr celfyddydau at fwy o bobl ac i gynhyrchu mwy o incwm. Mae cynigion yn cynnwys cynnig ystod ehangach o waith fel rhan or rhaglen fewnol, i gynnwys gwaith ysgrifennu newydd, theatr gerddorol, premieres rhanbarthol, gwaith Cymraeg a chynyrchiadau ar y cyd, yn ogystal â diwygiadau o waith clasurol. Fel rhan o nod y theatr i ddatblygu cysylltiadau cymunedol gydag ystod ehangach o bobl, mae digwyddiad Drysau Agored yn cael ei gynnal ar 31 Hydref sy’n cynnwys digwyddiadau am ddim ar cyfle ir cyhoedd archwilio pob maes or theatr, gan gynnwys y cwpwrdd dillad, celfi, ystafelloedd ymarfer a thu ôl ir llwyfan. Mae cynlluniau hefyd ar waith i greu llawr sglefrio drws nesaf i’r theatr dros gyfnod y Nadolig er mwyn denu mwy o ymwelwyr. Maer strategaeth fusnes yn cynnwys canolbwyntio mwy ar waith ar gyfer pobl ifanc a gyda phobl ifanc, a chynlluniau ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau newydd yn ystod y dydd i apelio at y gymuned ehangach. Bydd y theatr yn ceisio creu cydweithrediadau a phartneriaethau newydd yn lleol ac yn genedlaethol ar draws pob agwedd ar ei gwaith. Mae cydweithrediadau syn cael eu harchwilio yn cynnwys gwaith gyda theatrau yng Nghymru a ledled y DU. Ceir hefyd ymrwymiad or newydd i waith ysgrifennu newydd, gydag awydd i osod Theatr Clwyd wrth wraidd gwaith ysgrifennu newydd yn y wlad. Yn yr adroddiad, dywedodd Tamara Harvey: “Rydym yn ymdrechu i fod yn ganolfan gelfyddydau hollbwysig a fywiog wrth wraidd ein cymuned ac yn gartref creadigol i artistiaid o Gymru a thu hwnt, lle bydd gwaith newydd yn cael ei greu a ffyrdd newydd o weithio yn cael eu harchwilio.” Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton: “Maer cyngor yn falch o weld y cynnydd syn cael ei wneud gydar cynllun busnes ar arbedion effeithlonrwydd a gyflawnir, yn yr hyn syn hinsawdd ariannol anodd iawn. “Rydym yn falch iawn o gael y cyfarwyddwr artistig newydd gyda ni ac yn edrych ymlaen at ei gwaith i wella atyniad masnachol y theatr a chynyddu mynediad ir gymuned leol.”