Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolygiad Gwasanaethau Plant yn Sir y Fflint

Published: 09/10/2015

Mae Gwasanaethau Plant yn Sir y Fflint yn cael eu darparu gan weithlu cymwys a phrofiadol syn gallu diwallu anghenion plant, pobl ifanc au teuluoedd, yn ôl adroddiad arolygu i’w ystyried gan Gabinet Cyngor Sir y Fflint mewn cyfarfod ddydd Mawrth, 13 Hydref. Ymgymerodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) arolygiad yn gynharach eleni pan edrychwyd yn fanwl ar brofiadau plant a phobl ifanc a oedd wedi angen neu dal i angen cefnogaeth a/ neu amddiffyniad. Roedd yr arolygiad hefyd yn ystyried ansawdd y canlyniadau a gyflawnwyd ar gyfer plant a theuluoedd, gan gynnwys sampl fach o blant a phobl ifanc a oedd yn derbyn gofal, wedi derbyn gofal. Darllenodd arolygwyr ffeiliau achos a chyfweld staff, rheolwyr a gweithwyr proffesiynol o asiantaethau partner. Buont hefyd yn siarad â phlant, pobl ifanc au teuluoedd. Canmolodd yr adroddiad broses wneud penderfyniadau clir y Cyngor yn ystod ymchwiliadau amddiffyn plant a’r camau brys a gymerodd i amddiffyn plant a phobl ifanc a oedd mewn perygl dybryd o niwed sylweddol. Caiff 12 o argymhellion yr adroddiad eu cydnabod fel ardaloedd yr oedd y Cyngor ei hun eisoes wedi’u nodi ar gyfer gwelliant pellach. Mae hyn yn cynnwys yr angen i gryfhau trefniadau ymhellach pan fydd pobl yn cysylltu âr gwasanaeth gyntaf a sicrhau bod yr holl systemau mewnol yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau rhagorol. Maer adroddiad yn cefnogir arweinyddiaeth a llywodraethu cryf a ddarperir gan uwch wleidyddion a swyddogion ac yn croesawu ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu a gweld gwelliant pellach yn y gwasanaethau plant. Amlygodd hefyd mai’r adborth cyffredinol gan staff oedd bod Sir y Fflint ag enw da ac yn lle cadarnhaol i weithio. Canfur arolygwyr pan fo pobl wedi cysylltu ller oedd arwydd amlwg bod plentyn neu blant mewn perygl neu wedi dioddef niwed sylweddol, bod penderfyniadau prydlon wedi’u gwneud a bod camau cychwynnol wedi’u cymryd i amddiffyn y plentyn. Maer adroddiad yn nodi bod y cynadleddau achos amddiffyn plant a arsylwyd gan yr arolygwyr wedi cael eu cadeirion dda ac yn canolbwyntio ar y plentyn. Maer cyngor hefyd yn gweithion galed i geisio sicrhau, lle bo modd, bod plant yn derbyn gofal o fewn eu teulu estynedig neu eu cefnogi i gynnal perthnasau mwy ystyrlon. I gefnogi hyn roedd gwasanaeth cynadleddau grwpiau teuluol cadarnhaol wedi’i sefydlu. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: Mae yna bethau da i’w dysgu or adroddiad hwn ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni argymhellion yr arolygwyr. Rydym yn falch fod yr adroddiad yn cydnabod ac yn cymeradwyo ein dull effeithiol o reoli diogelwch plant. Er gwaethaf y pwysau ariannol enfawr a wynebir gan y Cyngor, rydym yn gweithion galed i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau da, hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae galw cynyddol. Rydym yn derbyn bod meysydd sydd angen gwelliant parhaus a byddwn yn taclo’r rhain yn ein cynllun gweithredu Ychwanegodd Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, Neil Ayling: Maer adroddiad yn cadarnhau ein hymrwymiad i welliant parhaus y gwasanaethau plant yn Sir y Fflint. Rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod nifer o gryfderau yn y Gwasanaethau Plant, yn enwedig ymrwymiad ac ymroddiad ein gweithwyr cymdeithasol. Rydym eisoes yn ymateb i argymhellion yr adroddiad ar gyfer newid pellach.