Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Barod ar gyfer y Gaeaf

Published: 09/10/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint yn sicrhau preswylwyr ei fod wedi paratoin dda i ddelio â chyflyrau rhewllyd ar y ffyrdd y gaeaf hwn. Argymhellir bod Aelodaur Cabinet yn cymeradwyor Polisi Cynnal a Chadw dros y Gaeaf (2015-18) wedi’i ddiweddaru yn ei gyfarfod ar 13 Hydref. Ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, mae gan yr awdurdod gyfanswm o 9,000 tunnell o halen wedi’i storio ar ddau safle (Alltami a Greenfield), a gaiff ei ailgyflenwi wrth iddo gael ei ddefnyddio. Bydd tîm o lorïau graeanu’r Cyngor wrth law o fis Tachwedd tan ddiwedd mis Mawrth, yn barod ar gyfer ffyrdd y sir. Maer gyrwyr i gyd wedi’u hyfforddin llawn mewn gwaith cynnal a chadw’r gaeaf. Maer tîm yn cynnwys 12 o lwybrau blaenoriaeth ar draws y sir, gan raeanu 45% o ffyrdd Sir y Fflint, un or canrannau uchaf yng Nghymru. Yn ogystal, mae gan y cyngor 38 o gontractwyr amaethyddol y gellir galw arnynt i helpu i glirio eira. Mae gan bob un lwybr penodol er mwyn galluogi ir rhwydwaith cyfan o ffyrdd a fabwysiadwyd yn y sir gael ei glirio. Bydd Tîm Strydlun y Cyngor hefyd yn trin llwybrau troed ar sail blaenoriaeth mewn ardaloedd sy’n cynnwys ysbytai, cartrefi preswyl, ysgolion, safleoedd bysiau ac ardaloedd siopa yn ystod cyflyrau rhewllyd hir ac eira. Bydd biniau halen/tomenni yn cael eu llenwi ar ddechrau tymor y gaeaf ac eto ym mis Ionawr os bydd angen. Dywedodd y Cyng. Bernie Attridge, Prif Aelod yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: “Hoffwn sicrhau ein holl drigolion ein bod wedi paratoin dda ar gyfer delio â chyflyrau ar ein ffyrdd y gaeaf hwn. Mae gennym stoc dda o halen a bydd ein timau graeanu yn gweithio’n ddiflino i sicrhau ein bod yn darparur gwasanaeth or ansawdd gorau yn ystod cyfnodau o dywydd gwael.”