Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Brentisiaid – Chi Biau’r Swydd

Published: 09/10/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu 30 o brentisiaid newydd ir awdurdod. Bu’r recriwtiaid newydd yn cwrdd â’r Prif Weithredwr Colin Everett mewn cyfarfod sefydlu yn ystod diwrnod cynefino yn Academi Dysgu a Datblygur Cyngor yng Ngholeg Cambria, Llaneurgain. Caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio bob blwyddyn i weithio ar draws y sefydliad gan ddysgu sgiliau newydd gan gynnwys busnes, cyfrifeg, TGCh, rheoli cefn gwlad, gwaith coed a gosod brics, tran mynychu coleg un diwrnod yr wythnos i ennill cymwysterau cydnabyddedig yn y diwydiant penodol hwnnw. Er mwyn ehangu’r cynlluniau hyfforddi eleni, maer Cyngor hefyd wedi cyflogi 3 unigolyn sydd wedi graddio a fydd yn gweithio yn yr awdurdod tra’n astudio ar gyfer eu graddau Meistr. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton: “Rydym eisiau sicrhau bod pobl ifanc yn Sir y Fflint yn cyflawni eu potensial ac mae ein cynllun prentisiaeth yn dangos ein hymrwymiad parhaus i greu cyfleoedd ar gyfer pobl leol.” Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr: “Rydym wedi gweld llawer on cyn-hyfforddeion yn mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus iawn yn eu dewis broffesiwn. Maer cyfraddau llwyddiant i’w gweld yn ein ffigurau, ac mae dros 96% or rhai ar y cynllun wedi cael gwaith neu leoedd addysg uwch ar ddiwedd y rhaglen. Rydym yn falch iawn on cynllun Prentisiaeth an partneriaeth gyda Choleg Cambria.”