Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith yn Dechrau ar Lwybr Troed Newydd

Published: 09/10/2015

Mae gwaith wedi dechrau ar lwybr newydd i wella diogelwch ger ysgol. Clustnodwyd y gwaith gan Gyngor Sir y Fflint ar Bryn Road, Bryn Y Baal, fel prif flaenoriaeth, gan sicrhau cyllid o £247,000 gan Lywodraeth Cymru ar ôl ymgyrch i wella diogelwch ger Ysgol Uwchradd Argoed. Cyflwynodd Emma Pryce, disgybl, ddeiseb ir Cyngor yn ymgyrchu am lwybr troed ar y ffordd brysur, er mwyn gwneud yr ardal yn fwy diogel i ddisgyblion gerdded ir ysgol. Maer gwaith, syn cynnwys llwybr troed a chroesfan sebra newydd, yn cael ei ariannu drwyr Grant Llwybrau mwy Diogel mewn Cymunedau, a bydd wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd. Dywedodd y Cyng. Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: “Rwyn falch iawn bod y Cyngor yn gallu sicrhau arian ar gyfer y gwelliannau hyn. Caiff y llwybr hwn ei ddefnyddio gan ddisgyblion yr ysgol a thrigolion yn ddyddiol, a bydd y llwybr troed a chroesfan sebra newydd yn helpu i wella diogelwch i bawb.”