Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdai Celf Gweledol Gwyl Daniel Owen

Published: 13/10/2015

Fel rhan o Wyl Daniel Owen ac i ddathlur Darlun Mawr a Gwyl Gelfyddydau’r Teulu, bydd Eleri Jones yn arwain gweithdy celf i’r teulu yn Llyfrgell yr Wyddgrug ddydd Sadwrn 17 Hydref. Mae’r gweithdy, rhwng 1.30 a 3:30pm yn addas ar gyfer pob oedran a gallu a bydd yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau lluniadu a phaentio i wneud gwaith celf yn seiliedig ar y thema Mae pob darlun yn adrodd stori. Y gost fydd £2 y ?? plentyn, am ddim i oedolion. I gadw lle, cysylltwch â Llyfrgell yr Wyddgrug ar 01352 754791 mold.library@flintshire.gov.uk. Hefyd, ddydd Sul 18 Hydref bydd yr artist rhyngwladol o fri, Emrys Williams, yn arwain gweithdy yn archwilio i gyfrwng paent dyfrlliw a phaent sy’n seiliedig ar ddwr. Cynhelir y gweithdy rhwng 10am a 4pm yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, bydd yn costio £30 y person, ac mae wedii anelu at bobl o bob lefel o brofiad, o ddechreuwyr i fyfyrwyr ac artistiaid. Bydd y sesiwn yn agor y drws i ffyrdd newydd o weithio gyda chyfryngau seiliedig ar ddwr mewn ffyrdd sythweledol gan archwilio’r gofod darluniadol a chymysgu ffyrdd haniaethol a ffigurol o weithio. Bydd yr artist yn dangos enghreifftiau oi waith ei hun mewn dyfrlliw a phaent yn seiliedig ar ddwr fel cyflwyniad ir sesiwn ymarferol. I gadw lle, cysylltwch âr Tîm Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau, yng Nghyngor Sir y Fflint, ar 01352 704400 erbyn dydd Mercher, 14 Hydref. Gallwch weld rhaglen lawn Gwyl Daniel Owen yn www.danielowenfestival.com. I gael rhagor o wybodaeth am Wyl Daniel Owen, y Darlun Mawr a digwyddiadau Gwyl Gelfyddydau’r Teulu, cysylltwch â Gwenno Jones ar 01352 702471 gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk