Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Artist Ysgolion mewn Rhaglen Breswyl

Published: 29/10/2015

Yr hydref hwn, bydd disgyblion o Ysgol Bryn Deva, Cei Connah, Ysgol Queensferry ac Ysgol Gwynedd yn gwisgo eu hetiau artistig ac yn creu gwaith celf trawiadol fel rhan o’r Prosiect Artist Preswyl a elwir yn Trwy dy Lygaid. Gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir y Fflint, mae disgyblion wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r Dylunydd Golau proffesiynol, Hannah Wardle, i ddylunio a chreu gosodiadau golau syn dathlu Blwyddyn Genedlaethol Goleuni 2015. Bydd y cyfnod preswyl yn dod i ben gydag arddangosfa yn Theatr Clwyd rhwng 17 Tachwedd a 15 Rhagfyr. Caiff yr arddangosfa ei lansio am 1pm ddydd Gwener 20 Tachwedd yn Theatr Clwyd. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion ac athrawon weithio ochr yn ochr ag artist proffesiynol i ddatblygu eu sgiliau creadigol, ac mae’n tynnu sylw at effeithiolrwydd ysgolion yn cydweithio” Amserlen Preswyliadau: Ysgol Bryn Deva, Cei Connah – 5 - 8 Hydref, Ysgol Queensferry – 12 - 15 Hydref ac Ysgol Gwynedd 19 - 22 Hydref. Nodyn y Golygydd: I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Trefor Lloyd Roberts ar 01352 704027 / Trefor.l.roberts@flintshire.gov.uk Am gyfleoedd i dynnu llun, cysylltwch ag ysgolion unigol