Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Artist Ysgolion mewn Rhaglen Breswyl

Published: 19/10/2015

Bydd disgyblion o Ysgol Pen Coch ac Ysgol Maes Hyfryd, y Fflint yn gwisgo eu hetiau ffotograffwyr ac yn tynnu lluniau trawiadol yr hydref hwn fel rhan o brosiect or enw ‘Trwy dy Lygaid ... Through your Eyes’. Gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir y Fflint, maer disgyblion wedi bod yn gweithio gyda’r ffotograffydd proffesiynol David Woodfall i dynnu lluniau syn dathlu Blwyddyn Ryngwladol Goleuni 2015. Bydd y cyfnod preswyl yn gorffen gydag arddangosfa yn Theatr Clwyd rhwng 20 Hydref ac 17 Tachwedd. Bydd yr Arddangosfa yn cael ei lansio ar ddydd Gwener 23 Hydref yn Theatr Clwyd am 1pm Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Mae hwn yn gyfle bendigedig i ddisgyblion ac athrawon weithio ochr yn ochr ag artist proffesiynol i ddatblygu eu sgiliau creadigol, ac yn amlygu effeithiolrwydd gwaith ar y cyd rhwng ysgolion” Nodyn i Olygyddion I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Trefor Lloyd Roberts ar 01352 704027 / Trefor.l.roberts@flintshire.gov.uk