Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arwerthinat cist car i gau dros y gaeaf

Published: 16/10/2015

Bydd arwerthinat cist car Love Lane yn yr Wyddgrug yn cau dros y gaeaf. Bydd yr arwerthiant, a gynhelir ar fore dydd Sul, yn dod i ben ar 1 Tachwedd ac yn dechrau eto ar 3 Ebrill 2016. Gwasanaeth Marchnadoedd Cyngor Sir y Fflint sy’n rhedeg yr arwerthiant ac, yn ystod misoedd yr haf, mae’n cynhyrchu incwm bach i’r awdurdod. Yn ystod y gaeaf, fodd bynnag, mae’n llai poblogaidd ac mae’n gwneud colled. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Fel awdurdod, mae ein cyllideb yn cael ei thorri’n fwy nag erioed o’r blaen ac, yn anffodus, oherwydd y pwysau ariannol y mae ein gwasanaethau’n eu hwynebu, ni allwn gyfiawnhau cadw’r arwerthiant cist car ar agor dros fisoedd y gaeaf.”