Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Clwb Menter Sir y Fflint
  		Published: 22/10/2015
Ydych chi’n entrepreneur gyda syniad busnes ond ddim yn gwybod sut i’w 
ddatblygu ir lefel nesaf? 
Gall Clwb Menter Sir y Fflint eich helpu drwy gynnig llawer o gyngor defnyddiol 
ynglyn â dechrau eich busnes eich hun.
Gyda gweithdai am ddim gan Brifysgol Glyndwr, maer clwb yn cynnig amgylchedd 
cyfeillgar, hamddenol a llawn gwybodaeth ac mae’n gyfle gwych i rwydweithio. 
Cynhelir sesiynau bob yn ail ddydd Gwener ar Gampws Cymunedol John Summers, 
Queensferry o 10am hyd ganol dydd.
Mae’r gweithdai, a gynhelir yn rhad ac am ddim, dros y misoedd nesaf yn cynnwys:
30 Hydref Tanio eich Creadigrwydd
27 Tachwedd Mae pawb yn Entrepreneur – dim ond megis dechrau yw hyn
11 Rhagfyr Seiberdroseddu ac Atal Twyll
8 Ionawr Cyfryngau Cymdeithasol, Y Wasg a Sut i Roi Cyhoeddusrwydd i’ch Busnes
22 Ionawr Meithrin Tîm
	
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: 
 “Maer clwb yn lle gwych i bobl gael cymorth i ddatblygu syniadau busnes 
newydd neu gael cefnogaeth wrth sefydlu busnes newydd. Mae gweithdai rhagorol 
i’w cael am ddim yn ogystal â chyfleoedd gwych i farchnata eich busnes, felly 
byddwn yn annog unrhyw un syn teimlo y byddai hyn o fudd iddyn nhw i fynychu.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r clwb, cysylltwch â Beverly Moseley ar 01244 
846090.