Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diogelu merlod Presthaven Sands

Published: 22/10/2015

Mae ceidwaid cefn gwlad wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned i amddiffyn merlod yn Presthaven Sands rhag peryglon llysiaur gingroen. Mae Ceidwaid Cyngor Sir y Fflint a Pharc Carafannau Bourne Leisure wedi bod yn gweithio gyda grwpiau o wirfoddolwyr i gael gwared ar y planhigyn o’r caeau lle mae pump o ferlod mynydd y Carneddau yn pori. Ers 2012, maer ceffylau’n cael eu defnyddio i borir safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig i helpu i hybu amrywiaeth rhywogaethau yn y twyni. Rhywogaeth twyni cyffredin yw llysiau’r gingroen a gall fod yn wenwynig i geffylau. Er nad fyddant yn ei fwyta fel arfer, a hynny oherwydd ei arogl chwerw, nid yw’r ceidwaid yn fodlon cymryd unrhyw siawns. Maent wedi bod yn gweithion ddiflino gyda gwirfoddolwyr i gael gwared ar lysiaur gingroen o’r caeau er mwyn dileu unrhyw berygl ir merlod. Diolch i’r gwirfoddolwyr o Bank of America Merrill Lynch, Cadw Cymru’n Daclus, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a phawb arall a fu’n gweithio’n galed yn ystod y misoedd diwethaf. Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Cyngor Sir y Fflint ar gyfer yr ardal, sy’n cydgysylltu’r gwaith ar y twyni: “Mae wedi bod yn waith caled y tymor hwn gan fod nifer fawr o blanhigion yn tyfu drwy ond, diolch i’r cymorth gwych a gawsom gan ein partneriaid, fe lwyddon ni i glirio’r safle. Rydym yn gobeithio ymestyn y cynllun pori i safleoedd eraill yn y sir ac mae rheoli llysiaur gingroen yn dasg allweddol yn y gwaith o ofalu am ein da byw. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer y rhaglen ar y safle’r flwyddyn nesaf a gobeithio y bydd rhagor o grwpiau cymunedol a chwmnïau preifat yn awyddus i gymryd rhan. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae’r timau wedi gwneud gwaith gwych yn Presthaven Sands eleni. Mae partneriaethau fel hyn yn hanfodol yn yr hinsawdd economaidd bresennol a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith. Dyma enghraifft wych o’r gwasanaethau cefn gwlad yn gweithio gyda’r gymuned i wella’r safleoedd cadwraeth pwysig hyn er budd pawb ac er budd bywyd gwyllt Sir y Fflint.” Ceidwad Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, Lawrence Gotts, gyda gwirfoddolwyr o Bank of America Merrill Lynch Pennawd : Gwirfoddolwyr yn diogelu merlod