Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ac enillwyr Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2015 yw...

Published: 28/10/2015

Mae’r gwobrau, a gyflwynwyd am y nawfed tro eleni, yn cydnabod rhagoriaeth a pherfformiad eithriadol busnesau drwy’r sir. Cafodd yr enillwyr eu datgelu mewn seremoni ffurfiol nodedig ym Mhlas Sychdyn, Llaneurgain nos Wener 23 Hydref. Roedd yn gyfle i ddathlu llwyddiant cwmnïau Sir y Fflint a hynny o flaen cynulleidfa o dros 200 o bobl fusnes ddylanwadol. Roedd yn noson wych i Steve Morgan a P & A Group. MD enillodd wobr Person Busnes y Flwyddyn a daeth ei gwmni’n ail yn y categori Busnes Gorau i Weithio iddo. Cipiodd Elin Bamber o Edge Transport wobr Prentis y Flwyddyn. Aeth y wobr am y Busnes Gorau â dros 50 o staff i LDF Operations, sy’n helpu cwmnïau i ddatrys problemau ariannol, a’r Busnes Gorau â llai na 50 o staff oedd Pro-networks, cwmni sy’n cynnig gwasanaethau TGCh. M7 Aerial ddaeth yn fuddugol yn y categori Busnes Gorau â llai na 10 o staff. Cipiodd CSA Group Testings y wobr am y Cwmni Allforio Gorau, enillodd Rubicon Manufacturing y wobr ar gyfer y Busnes Newydd mwyaf Arloesol, S & T Systems enillodd y Wobr Llwyddo drwy Arloesi ac, yn olaf, ICR Group enillodd y wobr Llwyddo drwy Weithio’n Gynaliadwy. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler - yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr. Daeth busnesau da iawn i’r brig a chafodd y beirniaid gryn drafferth dewis yr enillwyr ym mhob categori eleni. “Hoffwn hefyd ddiolch i’n noddwyr am sicrhau bod modd cynnig y gwobrau hyn. Roedd yn noson wych ac ni fyddai wedi bod yn bosibl ei chynnal heb eu cefnogaeth nhw. Mae’n braf bod busnesau Sir y Fflint yn gweld gwerth yn y gwobrau a’u bod yn awyddus i gefnogi ei gilydd.“ Roedd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr AGS Security Systems, prif noddwr Gwobrau Busnes Sir y Fflint, yn awyddus i longyfarch yr holl fusnesau a lwyddodd i gyrraedd y rhestr fer: “Roedd yn fuddiol iawn i AGS Security Systems ddychwelyd i’r llwyfan fel y prif noddwr eto eleni. Rwy’n parhau i ryfeddu at yr amrywiaeth a’r brwdfrydedd sydd i’w weld ymhlith busnesau Sir y Fflint ac mae safon byd busnes y Sir yn llwyddo i fy nghyffroi bob amser. “Mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn helpu i gydnabod perfformiad eithriadol ac, yn y dyfodol, mae angen i ni feddwl am y genhedlaeth nesaf ac am addysg ein cydweithwyr - rydym i gyd yn gyfrifol am greu entrepreneuriaid y dyfodol.” Dyma enillwyr a noddwyr y deg categori: Gwobr Noddwr Buddugol Prentis y Flwyddyn Coleg Cambria Elin Bamber Busnes Gorau â dros 50 o staff Pochin Ltd LDF Operations Ltd Busnes Gorau â llai na 50 o staff Edge Transport M7 Aerial Busnes Gorau â llai na50 o staff Ffederasiwn Busnesau Bach Pro-Networks Busnes Gorau i Weithio Iddo B 2 Business Systems P & A Group Allforio Wagtail UK Ltd CSA Group Testing UK Busnes Newydd mwyaf Arloesol DSG Chartered Accountants Rubicon Manufacturing Llwyddo drwy Arloesi Prifysgol Glyndwr S & T Systems Llwyddiant drwy Weitho’n Gynaliadwy Porthladd Mostyn ICR Group Person Busnes y Flwyddyn AGS Security Systems Steve Morgan, P & A Group I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflitn, ffoniwch For Kate Catherall ar 01352 703221 neu ewch i www.wythnosfusnessiryfflint.co.uk