Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ffau’r Dreigiau
Published: 21/05/2014
Daeth gwleidyddion lleol ac arweinwyr ynghyd i gefnogi digwyddiad Ffau’r
Dreigiau Cymunedau yn Gyntaf yng Ngholeg Cambria.
Gwahoddwyd entrepreneuriaid i gyflwyno eu syniadau busnes i bump o Ddreigiau
busnes a gymerodd ran yn Ffau’r Dreigiau Cymru.
Mae’r Dreigiau, sydd i gyd yn berchen ar fusnesau lleol, yn cynnig chwe mis o
fentora un-i-un yn wirfoddol i bobl sydd â syniadau busnes posibl gan eu helpu
i dyfu eu busnes neu roi cychwyn arno.
Y Dreigiau oedd Askar Sheibani, Prif Weithredwr cwmni Comtek sydd â’i bencadlys
yng Nglannau Dyfrdwy, Christine Sheibani, Cyfarwyddwr Comtek, Leyla Edwards o
gwmni KK Fine Foods, Paul Maddocks gynt o gwmni Parkway Telecom ac Adam Butler
o gwmni Easy Online Recruitment. Bydd saith o bobl yn derbyn y rhaglen fentora
o ganlyniad i’r digwyddiad.
Roedd y digwyddiad yn rhan o Ddiwrnod Gwybodaeth i Entrepreneuriaid lle roedd
pobl yn gallu cael cyngor a chefnogaeth i ddechrau busnesau. Ymhlith y
sefydliadau eraill a gefnogodd y digwyddiad roedd darparwyr addysg lleol,
Canolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru, Busnes Cymru a Chyngor Sir y Fflint.
Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
“Trwy ddod ynghyd i gefnogi’r digwyddiad hwn pwysleisir pwysigrwydd cynnig
cymorth a chyngor i bobl leol ar gyfer eu syniadau busnes eu hunain. Mae’r
Dreigiau wedi gwneud gwaith arbennig, gan roi o’u hamser i fentora eraill. Nid
yn unig rydym yn annog pobl sy’n gweithio iddyn nhw eu hunain, rydym hefyd yn
tyfu’r economi leol, gan fod busnesau’n darparu swyddi a chyfleoedd wrth iddyn
nhw dyfu.”
Meddai Askar Sheibani: “Rwy’n falch iawn o’r llwyddiannau rydym wedi eu gweld
hyd yn hyn trwy ddigwyddiadau Ffau’r Dreigiau a Chlybiau Menter Sir y Fflint.
Mae’r digwyddiadau cymunedol hyn yn cynnig llwyfan lle gall pobl leol dalentog
gyflwyno eu syniadau busnes a chael cymorth ac arweiniad, yn ogystal ag
ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un peth. Fel un o’r Dreigiau ar y panel
eleni, rwy’n falch o weld creadigrwydd a gweledigaeth y darpar entrepreneuriaid
yn ein cymuned ac rwyf wrth fy modd yn eu helpu i feithrin y ddawn hon, tyfu
busnesau gwell a chreu cymdeithas fwy llewyrchus maes o law.”
Mae tîm Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn trefnu Clwb Menter Sir y Fflint sy’n
cyfarfod bob yn ail ddydd Gwener yng nghampws cymunedol Ysgol Uwchradd John
Summers. Mae’r clwb ar gyfer pobl fusnes leol a phobl sy’n ystyried dechrau
busnes ac mae’n cynnig cyngor a chymorth yn ogystal â siaradwyr gwadd a
gweithdai ysbrydoledig.
Capsiwn y llun, o’r chwith i’r dde: Patricia Carlin Cyngor Sir y Fflint, Adam
Butler, y Cyng. Andy Dunbobbin, Paul Maddocks, yr Arglwydd Barry Jones, Askar
Sheibani, David Hanson AS, Mark Tami AS, Leyla Edwards, Christine Sheibani, y
Cyng. Derek Butler, y Cyng. Ian Dunbar a’r Cyng. Paul Shotton.