Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dyma Ein Cyfle Ni – Wynebu’r Her Ariannol yn Sir y Fflint

Published: 28/10/2015

Digwyddiadau Ymgysylltu â’r Cyhoedd 16 Tachwedd – 7 Rhagfyr Mae gwasanaethau lleol a chyfleusterau cymunedol dan fygythiad oherwydd y gostyngiadau mawr mewn gwariant cyhoeddus. Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar y cyhoedd i sefyll o blaid eu gwasanaethau lleol drwy weithio gyda’r Cyngor i wynebu’r her ariannol. Bydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd gan ddechrau ym mis Tachwedd fel bo pobl yn cael clywed sut y gallant gymryd rhan yn y gwaith o siapio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol a sicrhau fod eu barn yn cyfrif yn y ddadl gyllidebol. Mae angen i’r Cyngor ostwng ei gyllideb yn sylweddol a gwneud newidiadau hollol newydd i’r ffordd y darperir gwasanaethau yng ngoleuni’r gostyngiadau ariannol sylweddol y mae’r llywodraeth wedi’u gwneud flwyddyn ar ôl blwyddyn. Daw hyn ar adeg pan fo’r Cyngor yn wynebu cynnydd di-osgoi mewn costau a galw am wasanaethau. Mae Sir y Fflint yn Gyngor effeithlon ac arloesol ac mae ganddo hanes o ymdopi gyda’r cyllid sydd ar gael, gan arbed dros £22m yn y tair blynedd diwethaf. Wrth wneud hynny, mae wedi diogelu gwasanaethau allweddol ar yr un pryd megis cynnal a chadw ffyrdd, cadw cymunedau’n lân ac yn daclus, canolfannau hamdden, ysgolion lleol, cymorth lles a gwasanaethau i bobl hyn, plant sy’n agored i niwed a’r rheiny ag anableddau. Ond rhwng nawr a 2018 mae’r rhagolwg yn llwm wrth i’r Cyngor wynebu bwlch pellach o £53m yn y gyllideb. Eleni yn unig mae £18.3m wedi cael ei arbed tuag at y targed hwn, ac rydym bellach wedi cyrraedd ‘trobwynt’ difrifol. Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi Strategaeth Ariannol Tymor Canolig manwl sy’n nodi sut y mae’n cynnig ymateb i’r heriau sy’n ei wynebu. Bydd angen cymorth Llywodraeth Cymru a’r cyhoedd arno i gyflawni hynny. Meddai Arweinydd y Cyngor Aaron Shotton: “Ni yw un o’r Cynghorau sy’n derbyn y lleiaf o gyllid yng Nghymru ac rydym yn dal i godi tua’r cyfanswm cyfartalog yng Nghymru ar y Dreth Gyngor, ond mae’r lefel isel hon o gyllid, gydag effeithiau’r agenda cyni parhaus yn y DU, yn ein gwneud yn agored i ostyngiadau cyllidebol uchel iawn. Mae Sir y Fflint wedi amsugno toriadau cyllidebol mewn modd creadigol dros y blynyddoedd diwethaf drwy gynllunio’n ofalus, bod yn effeithlon, dod o hyd i atebion arloesol, a gostwng costau swyddfa gefn i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Mae’r Cyngor bellach wedi cyrraedd ‘trobwynt’ lle bydd y gwasanaethau’n agored i doriadau mawr heb rywfaint o gymorth gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio’n galed i ddod o hyd i atebion a chredwn y gallwn arbed tuag £14m o’r £21m sy’n ofynnol y flwyddyn nesaf. Os gallwn weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i atebion pellach, er enghraifft cyfyngu cyfanswm y grant a gollwn, a derbyn cyfran o’r cyllid newydd ar gyfer iechyd i ariannu gwasnaethau gofal cymdeithasol ataliol yn uniongyrchol, credwn y gallwn gymryd cam mawr ymlaen i bontio’r bwlch ariannol hwn. Heb yr atebion hyn, bydd y gwasanaethau yr ydym wedi medru eu diogelu hyd yma mewn perygl.” Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Colin Everett: Dyma gyfle’r cyhoedd i gymryd rhan. Rydym eisoes yn cynorthwyo a gweithio gyda phobl leol i ddod o hyd i atebion lleol a darparu gwasanaethau ac rydym wedi cael ein calonogi gan yr ymateb hyd yma. Ond mae llawer mwy ar ôl i’w wneud ac mae’n gyfle mawr i gymunedau lleol chwarae eu rhan a chymryd cyfrifoldeb dros gyfleusterau a gwasanaethau lleol na all y Cyngor Sir eu darparu o hyn ymlaen. Rydym am weithio gyda phobl i archwilio’r cyfleoedd hyn fel partneriaid gyda’n gilydd.” Gall bobl gofrestru i fynychu un o saith digwyddiad i ymgysylltu â’r cyhoedd a gynhelir mewn lleoliadau ledled y Sir gan ddechrau ar 16 Tachwedd. Bydd angen i bobl gofrestru i fynychu nawr gan y bydd nifer y lleoedd yn cael eu cyfyngu i 200 ym mhob lleoliad. Gallant wneud hyn drwy fynd ar-lein ar www.siryfflint.gov.uk/EinCyfleNi neu drwy ffonio llinell gofrestru arbennig ar 01352 701701 o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Mercher. Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal o 6.30pm tan 8.30pm yn y lleoliadau canlynol: Nos Lun, 16 Tachwedd: Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle Nos Fawrth, 17 Tachwedd: Ysgol Gwynedd, Y Fflint Nos Fercher, 18 Tachwedd: Ysgol Uwchradd Treffynnon Nos Lun, 23 Tachwedd: Ysgol Bryn Coch,Yr Wyddgrug Nos Fawrth, 24 Tachwedd: Ysgol Gynradd Brychdyn Nos Iau,3 Rhagfyr: Neuadd Ddinesig, Cei Connah Nos Lun, 7 Rhagfyr: Ysgol Gynradd Sandycroft