Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwir Gynnyrch Marchnadoedd Sir y Fflint

Published: 29/10/2015

Gall siopwyr fod yn sicr fod y nwyddau ym marchnadoedd Sir y Fflint yn wir gynnyrch. Dyma’r fenter gyntaf oi bath ym Mhrydain wrth i Gyngor Sir y Fflint ymuno â phum awdurdod arall y Gogledd i lansio’r siarter Gwir Gynnyrch ym marchnadoedd y rhanbarth. Mae’r pedair marchnad sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor yn yr Wyddgrug, yn Nhreffynnon, yn y Fflint ac yng Nghei Conna wedi llofnodi Siarter sydd mewn bodolaeth ledled Prydain gyda’r bwriad o rwystro masnachwyr ffug. Mae’r fenter yn gosod cod ymarfer ac yn golygu y bydd masnachwyr y marchnadoedd yn gweithion agos gyda swyddogion safonau masnach i gadw nwyddau ffug o’r marchnadoedd. Mae’r fenter wedi cael ei lansio wrth i’r Nadolig agosáu er mwyn i weithdrefnau a chyngor i fasnachwyr fod ar waith ar gyfer tymor prysur y Nadolig. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Warchod y Cyhoedd: “Mae gennym farchnadoedd rhagorol a ffyniannus yn Sir y Fflint ac maer fenter hon yn gyfle gwych i hyrwyddo marchnadoedd heb nwyddau ffug. Mae’r gweithredwyr marchnad yn Sir y Fflint wedi bod yn gefnogol iawn ir ymgyrch Gwir Gynnyrch a’r hyn y maen ceisio ei gyflawni. Mae marchnadoedd sy’n cael eu rhedeg yn dda ac sy’n cynnig bargeinion go iawn, yn wych i siopwyr, i fasnachwyr lleol ac ir gymuned ehangach ac mae unrhyw beth syn helpu i ddiogelu hynny, drwy rwystro gwerthwyr nwyddau ffug, i’w groesawu’n fawr gan gymuned y marchnadoedd yn ei chyfanrwydd. Dywedodd Kevin Jones, Cadeirydd Grwp Safonau Masnach Gogledd Cymru, a phennaeth Safonau Masnach Cyngor Wrecsam: “Fel pob marchnad ledled Prydain, gall rhai Gogledd Cymru fod yn agored, ar unrhyw adeg, i gael eu heffeithio gan werthwyr nwyddau ffug a chynhyrchion anghyfreithlon eraill. Mae hyn yn arbennig o wir yn y cyfnod siopa cyn y Nadolig pan fo siopwyr yn chwilio am fargeinion ac yn gallu cael eu twyllo i brynu nwyddau ffug gan werthwyr diegwyddor. Mae’r Siarter Gwir Gynnyrch yn nodi gweithdrefnau clir ac ymarferol i weithredwyr marchnadoedd iw gwarchod rhag nwyddau ffug. Dywedodd Patricia Lennon, Cyfarwyddwr yr Ymgyrch Gwir Gynnyrch: “Mae’r dull partneriaethol hwn gan y chwe awdurdod lleol yn y Gogledd yn dangos grym go-iawn yn erbyn y troseddwyr sy’n gyfrifol am y fasnach nwyddau ffug. Drwy gyflwyno’r siarter Gwir Gynnyrch ac arddangos y logo, mae marchnadoedd a gwasanaethau safonau masnach ar draws y Gogledd yn anfon neges gref yn dweud cadwch draw’ wrth dwyllwyr nad ydyn nhw’n poeni am dwyllo defnyddwyr, am werthu cynnyrch anniogel nac am niweidio busnesau lleol. Ceir gwybodaeth ynglyn â Siarter Gwir Gynnyrch, a rhestr or holl farchnadoedd sydd wedi ymrwymo i’r ethos o ymwrthod â nwyddau ffug yn www.realdealmarkets.co.uk