Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Printiau Ar Werth yn Archifdy Sir y Fflint

Published: 29/10/2015

Mae Archifdy Sir y Fflint wedi rhyddhau pedwar print newydd i’w gwerthu ar gyfer y Nadolig. Maer printiau, a wnaed yn defnyddio delweddau yn y casgliad archifau, yn cynnwys llin-ysgythriadau o Eglwys Llaneurgain ac o Eglwys Owrtyn ger Wrecsam o’r flwyddyn 1831, o Gastell Rhuddlan yn 1830 a map lliw o Ddinbych a Sir y Fflint mewn Lladin a Chymraeg o’r ail ganrif ar bymtheg, sy’n dangos coedwigoedd, afonydd, parciau a Chlawdd Offa. Dywedodd y Prif Archifydd, Claire Harrington: “Rydym yn falch iawn o gael rhyddhau’r rhain iw gwerthu ir cyhoedd. Maent yn brintiau o ansawdd uchel, sydd wedi aros yn driw i’r gwreiddiol a byddent yn gwneud anrheg Nadolig hyfryd.” Mae’r printiau’n costio £5 am un maint A4 ac £20 am faint A3. Gellir gweld pob un or pedwar yn gweld ar https://www.flickr.com/photos/81944984@N02/ dudalen flickr yr Archifdy ac maent hefyd wedi eu harddangos yng nghyntedd yr Archifdy ym Mhenarlâg. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Unwaith eto mae’r staff yn yr Archifdy wedi dangos eu cyneddfau entrepreneuraidd ac wedi cynhyrchu pedwar print trawiadol ac anarferol ac rydw i’n siwr y byddant yn apelio at lawer o bobl yn enwedig y rheini sydd â diddordeb yn hanes yr ardal leol.” Bellach mae’r Archifdy yn gweithio ar gynhyrchu set o gardiau Nadolig Fictoraidd a fydd yn cael eu rhyddhau i’w gwerthu fis nesaf. I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu print cysylltwch â’r Archifdy ar 01244 532364