Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Drama The ‘D’ Word

Published: 29/10/2015

Daeth mwy na hanner cant o drigolion y Fflint i wylio drama sy’n tynnu sylw at faterion syn wynebu pobl â dementia. Trefnodd tîm Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint fod y ddrama ‘The D Word’ yn cael ei pherfformio yn Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant, y Fflint, fel rhan ou hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o’r salwch. Mae’r ddrama, a ysgrifennwyd gan yr actores a’r sgriptwraig deledu Janys Chambers, yn darlunio materion syn wynebu pobl â dementia yn ogystal âu gofalwyr au teuluoedd ac yn crisialur ymdeimlad o arwahanrwydd a wynebir yn aml. Cynhaliwyd trafodaeth ddiddorol a llawn gwybodaeth yn dilyn y llwyfaniad rhwng y gynulleidfa ar actorion, dan arweiniad Janys ac aelod o dîm Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint. Roedd y drafodaeth yn gadarnhaol iawn ac yn dangos cymaint o gefnogaeth sydd gan drigolion tuag at bobl syn byw â dementia yn y gymuned. Y digwyddiad hwn ywr diweddaraf mewn cyfres o fentrau sydd â’r bwriad o helpu’r Fflint i ddod yn dref sy’n deall dementia. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint yn gweithio’n agos gyda busnesau, sefydliadau ac elusennau lleol i ddatblygu a hyrwyddo cymuned sy’n deall dementia. Mae caffi cof wedii sefydlu yn eglwys y plwyf i gynnig cyngor a chymorth i bobl â dementia au gofalwyr, ac mae prosiect yn mynd rhagddo i ddarparu hyfforddiant Cyfeillion Dementia i aelodau or gymuned fel eu bod yn gallu deall yn well a rhoi cymorth i bobl sy’n dioddef o’r salwch. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Cydnabyddir bod Sir y Fflint yn arwain y ffordd o ran gofal dementia gyda gwasanaethau megis caffis cof a mentrau hyfforddi cyfeillion dementia. Bydd y gwaith partneriaeth ardderchog sy’n digwydd yn y Fflint ac mewn ardaloedd eraill yn y Sir yn sicrhau bod pobl syn dioddef o’r salwch hwn au gofalwyr au teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl.” Gofynnir bod unrhyw un syn dymuno helpu eu hardal i ddod yn gymuned sy’n deall dementia yn cysylltu â Thîm Cynllunio a Datblygu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint ar 01352 702655 neu yn mynd i www.alzheimers.org.uk i gael rhagor o wybodaeth ynglyn â’r Gymdeithas Alzheimer, Cyfeillion Dementia a Chymunedau sy’n Deall Dementia. Nodyn i olygyddion Comisiynwyd ‘The D Word’ gan Celfyddydau Mewn Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chelfyddydau Cyngor Sir Ddinbych, gyda Chronfeydd Elusennol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Awyr Las. The ‘D’ Word Eglwys y Fflint.JPG