Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cau dros y Nadolig

Published: 02/11/2015

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cau Neuadd y Sir ac adeiladau eraill rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd er mwyn arbed arian ar gostau rhedeg eiddo’r Cyngor dros gyfnod tawel y Nadolig. Ni fydd yn effeithio ar wasanaethau hanfodol megis atgyweiriadau tai brys, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau Strydwedd a bydd y rhain yn parhau i gael eu darparu. Bydd cau’r adeiladau yn effeithio ar y lleoliadau canlynol: Neuadd y Sir, yr Wyddgrug- yn cau 5pm ddydd Iau 24 Rhagfyr 2015 ac yn ail-agor ddydd Llun 4 Ionawr. Neuadd Llwynegrin (Swyddfa’r Cofrestrydd) yr Wyddgrug – yn gweithredu lefel is o wasanaeth, yn agor fel bo’r angen ar gyfer y gwasanaeth Pencadlys Llyfrgelloedd, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug- yn cau 5pm ddydd Iau 24 Rhagfyr ac yn ail-agor ddydd Llun 4 Ionawr. Gwnaed y penderfyniad i gau’r adeiladau gan fod y Cyngor yn wynebu toriadau i’r gyllideb na welwyd eu tebyg o’r blaen. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: “Fel nifer o sefydliadau, mae’r Cyngor wedi gweithredu gyda gweithlu llai dros gyfnod y Nadolig yn y gorffennol gan fod nifer o weithwyr yn cymryd gwyliau i dreulio amser gyda’u teuluoedd. “Waeth faint o weithwyr sy’n ein hadeiladau swyddfa yn ystod y cyfnod hwn, maer costau ar gyfer gwresogi a goleuo yn aros yr un fath. Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni mae hyn yn ddefnydd aneffeithlon o adnoddau ac felly gwnaed penderfyniad i gau Neuadd y Sir a’r adeiladau campws yn gyfan gwbl dros gyfnod y Nadolig”. Dywedodd y Prif Weithredwr Colin Everett: “Gellir cadarnhau i’r cyhoedd y bydd gwasanaethau allweddol yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn. Ni fydd yn effeithio ar wasanaethau hanfodol na’r gwasanaethau brys.