Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffair Nadolig

Published: 06/11/2015

Bydd elw’r Ffair Nadolig a gynhelir yng Nghanolfan Gymuned Coed-llai yn mynd i dair elusen a enwebwyd gan Ray Hughes, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint yn ystod ei dymor yn ei swydd. Bydd nifer o stondiau, gan gynnwys crefftau, cacennau, fframiau wedi’u personoli, eitemau wedi’u gwau a gwaith celf. Bydd gweithgareddau peintio wynebau a thatwio i’r plant a bydd Sion Corn yn galw heibio hefyd. Bydd y Ffair yn dechrau am 3pm a bydd lluniaeth a raffl ar gael. Mynediad am ddim. Bydd yr elw’n mynd i Ganolfan Marchogaeth Arbennig Clwyd, Ty’r Eos a’r Gymdeithas Cwn Tywys