Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadeirydd Newydd

Published: 20/05/2014

Heddiw (dydd Mawrth 20 Mai) mae Cyngor Sir y Fflint wedi ethol y Cynghorydd Glenys Diskin YH yn Gadeirydd. Ganwyd y Cynghorydd Diskin yn Shotton ac mae’n byw ym Mancot ers 32 mlynedd. Mae’n briod â’r Cynghorydd Alan Diskin ac mae ganddi fab a merch. Mae’r Cyng. Diskin yn rhedeg Swyddfa Bost Mancot ers 29 mlynedd ac yn gynghorydd Llafur ers dros 25 mlynedd. Mae’n Gadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru ac mae hefyd yn Ynad Heddwch ers 22 mlynedd. Yr Is-gadeirydd am y 12 mis nesaf fydd y Cynghorydd Ray Hughes. Mae’r Cyng. Ray Hughes yn cynrychioli Coed-llai ers 2008. Roedd yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Delyn ac mae’n gynghorydd cymuned ers 40 mlynedd. Mae’n briod â Gwenda ac mae ganddo dri mab. Roedd Ray yn arfer gweithio fel saer ac mae’n brysur iawn yn ei gymuned leol ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn pêl-droed a chriced.