Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cloddio i orffennol y Fflint

Published: 09/11/2015

Mae’r Fflint ar hyn o bryd yn ganolbwynt cloddiad archeolegol mawr ar safler hen dref ganoloesol sydd wedi dadorchuddio cyfrinachau oi gorffennol disglair syn dyddion ôl ir 12fed Ganrif. Maer cloddio archeolegol wedi bod yn digwydd ers mis Ionawr ar safle hen fflatiau deulawr y Cyngor yng nghanol tref y Fflint. Maer safle cyn fflatiau deulawr wedi cael ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer ailddatblygu uchelgeisiol cynllun 73 uned Gofal Ychwanegol newydd fydd yn cael ei adeiladu gan Pennaf. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn adeiladu Canolfan Feddygol newydd ar weddill y safle. Maer ddau gynllun wedi’u trefnu i ddechrau ar y safle yn gynnar yn 2016. Maer ardaloedd a fwriedir ar gyfer datblygu ar draws yr ardal adfywio cyfan yn cynnwys yr ailddatblygiad modern mwyaf o dref ganoloesol ai chylched amddiffynnol a gynhaliwyd erioed yng Nghymru. Dywedodd Mark Walters, Archaeolegydd Rheoli Datblygu, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, “Mae ardaloedd cloddio’r datblygiad o bwysigrwydd archeolegol rhanbarthol a chenedlaethol ac mae’r archaeoleg yr ydym wedi dod o hyd iddo yma wedi rhoi cyfle unigryw na ellir ei ailadrodd i ddeall yn llawn y tarddiad a datblygiad y dref ar bobl syn ymgartrefu yma. “Er syndod i bawb roedd y ffos ar ffryntiad Coleshill yn datgelu archaeoleg sy’n gyfan yn ymwneud ag amddiffynfeydd y dref o fewn dim ond 20cm o wyneb ffordd fynediad y llyfrgell! Roedd hyn yn gwbl annisgwyl gan ein bod wedi meddwl y byddai ehangur dref yn y 19eg ganrif ar 20fed ganrif wedi dinistrion llwyr y clawdd rhagfur yn arbennig. “Roedd y ffos sengl ir gogledd or fflatiau deulawr yn dangos aflonyddwch dymchwel dwfn or 1960au ar linell yr amddiffynfeydd canoloesol, ond hefyd gwarchod waliau blaen cerrig cynharach y 18fed ganrif ar Earl Street a dyddodion canoloesol ac ôl-ganoloesol cyflawn posibl mewn mwy o ddyfnder. Nid yw lefel cadwraeth yr amddiffynfeydd canoloesol, sy’n troi i lawr Earl Street o Stryd Coleshill, heb ei feintioli o gwbl ar hyn o bryd ar gyfer y rhan fwyaf o ffryntiad Earl Street gan nad oedd unrhyw gyfleoedd i samplu’r amddiffynfeydd oherwydd presenoldeb y fflatiau deulawr ar y ffryntiad. Mae’r holl ganfyddiadau archeolegol a wnaed ar y safle yn cael eu cofnodi’n llawn a bydd adroddiad manwl, ynghyd â lluniau ar gael ir cyhoedd eu gweld yn Llyfrgell y Fflint ac ar wefan Cyngor Sir y Fflint ar ddiwedd mis Tachwedd. Dywedodd y Cynghorydd Vicky Perfect, sydd, ynghyd â nifer o aelodau etholedig lleol wedi cael taith dywys o amgylch y safle, “Mae gan gymuned Sir y Fflint yn amlwg ddiddordeb mawr yn yr archaeoleg yn ôl y nifer o bobl syn edrych i mewn bob dydd ac yn darllen y paneli gwybodaeth ac mae hwn yn gyfle prin i ymgysylltu â chymuned Sir y Fflint i gynnig gwell dealltwriaeth iddynt on gorffennol. Mae ymchwiliadau cychwynnol bellach yn cael eu cynnal ar The Duke Walks, Y Fflint sef cyn safle fflatiau deulawr cydffiniol y Cyngor a chyn-Orsaf Heddlu a Llys Ynadon sydd hefyd yn cael eu clustnodi ar gyfer ailddatblygu tai yn gynnar yn 2016. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Cadeirydd Grwp Llywio Adfywior Fflint, “Maer canfyddiadau or cloddiad archeolegol yn cadarnhau arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol tref y Fflint ar raddfa leol a chenedlaethol. Maen bwysig bod cenedlaethaur dyfodol yn cael cyfle i ddysgu am ei gorffennol unigryw. Maen bwysig ein bod yn awr yn symud ymlaen gydag ailddatblygu canol tref y Fflint cyn gynted â phosibl er budd pobl leol a busnesau fel ei gilydd. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai: “Rwyf wrth fy modd bod y datblygiad cyffrous a gwaith adfywio yng Nghanol Tref y Fflint hefyd wedi rhoi cyfle gwych i archeolegwyr gloddio’n ddyfnach i hanes cyfoethog y Fflint. Hoffwn ddiolch i Pennaf a BIPBC am eu cydweithrediad ar cymorth maent wedi’i gynnig ir tîm