Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymerwch ran!

Published: 19/11/2015

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn parhau i weithio gyda chwmnïau, busnesau a phartneriaid lleol eraill ar ystod o brosiectau cadwraeth, treftadaeth ac addysg. Mae partneriaid yn cynnwys Airbus UK, Kingspan Insulated Panels, Kimberly Clark, Scottish Power, ENI, Grwp Traeth Talacre, Cyfoeth Naturiol Cymru, Presthaven Sands a sawl cyngor tref a chymuned. Mae Kingspan Insulated Panels yn bartner Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint hirsefydlog ac wedi cyfrannu at nifer o brosiectau gan gynnwys adfywio Doc Maesglas, y prosiect cyswllt cymunedol o ystâd Pen y Maes yn Nhreffynnon i ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan, a chreu pwll i lyffantod cefnfelyn. Rhoddodd y Tîm Cefn Gwlad yr un gefnogaeth i Kingspan, gyda’r prosiect Rhoi ac Ennill, lle gwnaethant helpu ysgolion lleol gyda phrosiectau gwella mawr. Eleni, cynhaliwyd y diwrnod yn Ysgol Gwenffrwd yn Nhreffynnon. Yn ddiweddar, cymerodd staff Kingspan Insulated Panels ran eto yn Niwrnod Mawr y Ddyfrdwy. Maer cwmni hefyd wedi addo £500 i barhau gyda’r gwaith gwella ar safle doc Maes Glas tu ôl iw safle ffatri, ac mae cynlluniau ar y gweill i’w brentisiaid helpu gyda phrosiect adeiladu bach ym Mharc Gwepra. Fe ddywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, Tim Johnson, “Bydd y cyfraniad diweddaraf gan Kingspan Insulated Panels yn ein galluogi i gyflawni gwaith gwella pellach ac yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, sydd o fudd i safleoedd cadwraeth pwysig i bawb eu mwynhau.” Dywedodd Mark Harris, Cyfarwyddwr Technoleg Adeiladu Adrannol Kingspan Insulated Panels, Mae Kingspan wedi datblygu perthynas agos iawn â Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint dros y 10 mlynedd diwethaf. Rydym wedi cael argraff dda iawn o ganlyniad ir sgiliau a’r ymroddiad gan y ceidwaid, ac rydym yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan wrth gefnogi eu cyfraniad aruthrol ir gymuned leol yn ein hardal. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth ar gefnogaeth a gawsom ers blynyddoedd lawer gan ein holl bartneriaid. Gan weithio ochr yn ochr â nhw, rydym wedi gallu bwrw ymlaen ag ystod o brosiectau cefn gwlad a threftadaeth lleol er budd cymunedau lleol a bioamrywiaeth Sir y Fflint, na fyddai modd cyflawni sawl prosiect hebddynt. Os ydych yn rhedeg busnes neu gwmni neu grwp lleol ac yr hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwch weithio i’ch cymuned ach amgylchedd gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, cysylltwch â ni ar 01352 703900 neu e-bostiwch: countryside@flintshire.gov.uk