Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Cymru ar y Map

Published: 13/11/2015

Mae trigolion yn Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect Cymreig cyffrous i roi mapiau degwm ar-lein. Maer mapiau plwyf lleol 19 ganrif gynnar hyn ar wybodaeth syn mynd gyda hwy, yn amhrisiadwy i ddangos y dirwedd, defnydd tir a gwneuthuriad cymdeithasol yr amser. Mae’r Prosiect Cynefin yn cynhyrchu delweddau digidol or mapiau ond mae angen help oddi wrth y cyhoedd i drawsgrifio’r testun a’r atodlenni au cysylltu â mapiau modern. Nid ywn anodd i’w wneud ac mae gwirfoddolwyr yn gallu gweithio ou cyfrifiadur eich hunain gartref ar unrhyw adeg. Mae Archifdy Sir y Fflint ym Mhenarlâg yn cynnal gweithdai mis nesaf i ddangos i unrhyw un a fyddain hoffi cymryd rhan yn y prosiect sut y gallant helpu. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal gan Carys Evans o Brosiect Cynefin ac wedi eu trefnu yn dilyn poblogrwydd gweithdai a gynhaliwyd ym mis Medi. Mae’n rhaid archebu ar gyfer y sesiynau 10am tan 4pm ddydd Mercher 2 ac 16 o Ragfyr er mwyn sicrhau bod pawb yn cael rhywfaint o sylw un-i-un i allu gwneud y gorau ou hamser. Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell: Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion Sir y Fflint gymryd rhan mewn prosiect cyffrous a gwerthfawr i ddod ân hanes yn fyw. I archebu lle cysylltwch â Carys Evans ar 01970 632416