Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cardiau Nadolig Fictoraidd

Published: 19/11/2015

Mae Archifdy Sir y Fflint wedi cynhyrchu set hyfryd o gardiau Nadolig Fictoraidd i’w gwerthu. Mae’r set o bedwar wedi’u hatgynhyrchu’n ofalus o ddelweddau’n seiliedig ar gardiau gwreiddiol y cafwyd hyd iddynt mewn llyfr yn Llyfrgell yr Archifdy. Credir eu bod yn cael eu defnyddio fel marcwyr llyfr. Y tu mewn i’r clawr, mae’r arysgrif ‘George Lloyd, Old Banks, Shotton, 1901’. Wedi i’r staff chwilio drwy gyfrifiad 1901, gwelwyd fod George, a oedd yn 12 bryd hynny, yn byw yn Old Banks gyda’i fam, Mary, ffermwr, a tair chwaer. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg: “Mae’r rhain yn gardiau deniadol iawn ac mae eu tarddiad yn ddifyr, sy’n rhoi elfen hanesyddol ychwanegol iddynt. Byddant o ddiddordeb i’r rhai sy’n byw yn Sir y Fflint yn awr a’r rhai sydd wedi symud oddi yma i fyw ond sydd â chysylltiadau â’r Sir Meddai’r Prif Archifydd, Claire Harrington: “Maent ychydig yn fwy na’r cardiau gwreiddiol a hynny er mwyn cael lle i ysgrifennu cyfarchion ond, fel arall, maent yn debyg iawn i’r cardiau Fictoraidd gwreiddiol.” Mae’r set yn costio £2 ac mae pob un yn cynnwys dwy ddalen wybodaeth, sef ‘hanes cryno cardiau Nadolig Fictoraidd’ ac esboniad o darddiad y cardiau. Gallwch eu prynu yn yr Archifdy, Lôn y Rheithordy, Penarlâg neu gallwch eu harchebu dros y ffôn ar 01244 532364 a chânt eu danfon drwy’r post am dâl postio bach.