Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cwrdd âr Her Ariannol yn Sir y Fflint

Published: 12/11/2015

Mae hyd at 300 o bobl eisoes wedi cofrestru hyd yma i fynd i gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd i glywed am yr her ariannol sy’n wynebu Cyngor Sir y Fflint. Mae gwasanaethau lleol a chyfleusterau cymunedol dan fygythiad oherwydd y gostyngiadau mawr mewn gwariant cyhoeddus, ac mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar y cyhoedd i sefyll o blaid eu gwasanaethau lleol. Mae’r cyfarfodydd ymgysylltu yn dechrau nos Llun, 16 Tachwedd a byddant yn gyfle i bobl glywed sut y gallant gymryd rhan yn y gwaith o lywio gwasanaethau at y dyfodol a sicrhau bod ganddynt lais yn y trafodaethau ariannol. Gall pobl gofrestru i fod yn bresennol mewn un o saith o gyfarfodydd ar hyd a lled y sir. Bydd y rhai sy’n dod i’r cyfarfodydd yn clywed am y modd y mae’r cyngor yn mynd i’r afael â’r her ariannol sy’n ei wynebu a sut y gall cymunedau lleol gymryd rhan. Bydd ffilm wedi’i hanimeiddio’n dangos y bwlch ariannu a chaiff pleidlais ryngweithiol ei chynnal i gael barn pobl am nifer o faterion. Mae angen i’r Cyngor ostwng ei gyllideb yn sylweddol a newid y ffordd y darperir gwasanaethau a hynny oherwydd y gostyngiadau sylweddol yn y cyllid a geir gan y llywodraeth o’r naill flwyddyn i’r llall. Daw hyn ar adeg pan mae’r Cyngor yn wynebu cynnydd anochel mewn costau ac yn y galw am wasanaethau. Mae Sir y Fflint yn Gyngor effeithlon ac arloesol ac, yn y gorffennol, mae wedi dangos y gall ymdopi â’r cyllid sydd ar gael iddo. Cafodd dros £22m ei arbed yn ystod y tair blynedd diwethaf. Er hynny, mae wedi llwyddo i ddiogelu gwasanaethau allweddol fel cynnal a chadw ffyrdd, cadw cymunedau’n lân ac yn daclus, canolfannau hamdden, ysgolion lleol, cymorth lles a gwasanaethau i bobl hyn, plant sy’n agored i niwed ac sydd ag anableddau. Ond o hyn tan 2018 mae’r rhagolygon yn llwm gan fod y Cyngor wynebu bwlch ychwanegol o £53m yn ei gyllideb. Llwyddwyd i arbed £18.3m yn barod eleni fel rhan o’r targed hwn, ac rydym bellach wedi cyrraedd ‘trobwynt’ difrifol. Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi Strategaeth Ariannol Tymor Canolig fanwl sy’n nodi sut y mae’n bwriadu ymateb i’r heriau sy’n ei wynebu. Bydd angen cymorth Llywodraeth Cymru a’r cyhoedd i gyflawni hynny. Meddai Arweinydd y Cyngor Aaron Shotton: “Rydym yn cael llai o gyllid na’r rhan fwyaf o gynghorau Cymru ac nid yw’r Dreth Gyngor rydym yn ei godi’n ddim uwch na’r cyfartaledd, ond gan ein bod yn cael cyn lleied o gyllid, ac yn wynebu toriadau parhaus oherwydd rhaglen gyni barhaus Llywodraeth y DU, rydym yn wynebu gostyngiadau sylweddol yn ein cyllideb. Mae’n galonogol fod hyd at 300 o bobl hyd yma wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan yn y drafodaeth. Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Colin Everett: Dyma gyfle’r cyhoedd i gymryd rhan. Rydym eisoes yn cynorthwyo pobl leol ac yn cydweithio â nhw i ddatblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau’n lleol, ac mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn galonogol.” Gall pobl gofrestru i fynd i un o saith cyfarfod ymgysylltu â’r cyhoedd mewn lleoliadau ar hyd a lled y Sir gan ddechrau ar 16 Tachwedd. Bydd angen i bobl gofrestru’n awr gan na chaniateir mwy na 200 ym mhob lleoliad. Gallant wneud hyn drwy fynd ar-lein ar www.siryfflint.gov.uk/EinCyfleNi neu drwy ffonio’r llinell gofrestru arbennig ar 01352 701701 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Mercher. Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal rhwng 6.30pm a 8.30pm yn y lleoliadau a ganlyn: Nos Lun, 16 Tachwedd: Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle Nos Fawrth, 17 Tachwedd: Ysgol Gwynedd, Y Fflint Nos Fercher, 18 Tachwedd: Ysgol Uwchradd Treffynnon Nos Lun, 23 Tachwedd: Ysgol Bryn Coch,Yr Wyddgrug Nos Fawrth, 24 Tachwedd: Ysgol Gynradd Brychdyn Nos Iau,3 Rhagfyr: Neuadd Ddinesig, Cei Connah Nos Lun, 7 Rhagfyr: Ysgol Gynradd Sandycroft