Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Codi tâl mewn meysydd parcio

Published: 23/11/2015

Cafodd strategaeth parcio ceir ar gyfer y sir gyfan ei chymeradwyo gan Gabinet y Cyngor ym mis Ebrill sy’n cynnwys cyflwyno taliadau parcio ym mhob un o feysydd parcio hyfyw trefi’r Cyngor Sir. Byddai’r strategaeth newydd yn darparu dull cyson o weithredu parcio oddi ar strydoedd ym meysydd parcio’r trefi. Mae mesurau a gorfodaeth parcio yn offer allweddol ar gyfer rheoli rhwydwaith priffyrdd effeithiol a helpu i osgoi tagfeydd ac mae rheoli parcio oddi ar strydoedd mewn modd effeithiol yn hanfodol er mwyn helpu i gynnal bywiogrwydd a bwrlwm y trefi. Bydd y taliadau parcio’n cael eu cyflwyno’n raddol ledled y sir. Cyflwynwyd taliadau ym Mwcle, ynghyd â thariffau codi tâl newydd yn yr Wyddgrug, ym mis Awst a dechreuwyd codi tâl yn Nhreffynnon ym mis Medi. O 30 Tachwedd 2015 ymlaen, bydd peiriannau talu ac arddangos yn weithredol yng Nghei Connah, Queensferry a Shotton. Yna, i ddilyn yn y flwyddyn newydd, bydd strategaeth parcio’r Wyddgrug yn cael ei hymestyn i gynnwys codi tâl ym meysydd parcio Neuadd y Sir, a bydd taliadau’n cael eu cyflwyno yn y Fflint. Mae rhestr lawn o’r trefi a’r meysydd parcio sy’n cael eu heffeithio, ynghyd â’r tariffau a’r oriau y codir tâl amdanynt, ar gael i’w gweld ar wefan y Cyngor. Nid oes unrhyw gynlluniau i godi tâl ar ddefnyddwyr ceir anabl ym meysydd parcio’r Cyngor mewn lleoedd parcio dynodedig ar gyfer yr anabl. Meddai Steve Jones Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd: Mae’r Strategaeth Parcio Ceir yn cael ei chyflwyno fel rhan o’r her i geisio arbed oddeutu £18m dros y flwyddyn ariannol nesaf. Rydym wedi addasu’r cynigion gwreiddiol er mwyn cymryd i ystyriaeth y prif bryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriadau, a hoffwn ddiolch i bawb a rannodd eu barn yn ystod y broses.