Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu yn agor yn yr Wyddgrug

Published: 25/11/2015

Yn dilyn llwyddiant Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon, y Fflint, Cei Connah a Bwcle, mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod y bumed Ganolfan wedi agor yn yr Wyddgrug. Mae Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn rhan allweddol o’r broses o wella’r Cyngor Sir gan roi pwyslais ar wasanaethau cwsmeriaid o’r radd flaenaf mewn lleoliadau hwylus yng nghanol trefi’r sir. Caiff pob canolfan ei datblygu’n ôl anghenion y dref y mae’n ei gwasanaethu. Mae’r Ganolfan yn yr Wyddgrug yn rhan o Lyfrgell yr Wyddgrug yng Nghanolfan Daniel Owen. Yno, bydd gwybodaeth ar gael i gwsmeriaid ynghyd â gwasanaethau allweddol gan y Cyngor Sir gan gynnwys gwasanaethau tai, gwasanaethau stryd, a chyngor am fudd-daliadau lles, bathodynnau glas, teithio consesiynol a’r dreth gyngor. Bydd y Ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 5pm a bydd ymgynghorwyr wrth law i helpu ag ymholiadau ynglyn â’r uchod ac unrhyw ymholiadau eraill yn ymwneud â’r Cyngor. Bydd modd defnyddio TGCh a bydd rhan benodol o’r Ganolfan wedi’i neilltuo ar gyfer cwsmeriaid sydd am gael trafodaeth breifat ag ymgynghorydd. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol: “Rwy’n hynod falch ein bod yn parhau i wneud cynnydd rhagorol o ran ein hymrwymiad i gyflwyno Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn nhrefi’r sir. Y Ganolfan yn Nhreffynnon oedd y gyntaf o’i math yn y Gogledd ac, o ganlyniad, mae’r modd rydym yn darparu gwasanaethau wedi gwella’n arw; mae’n braf gweld ein bod yn awr wedi ehangu’r gwaith rhagorol hwnnw ar hyd a lled y sir.”