Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arddangosfa Gill Benjamin a Jackie Walter

Published: 30/11/2015

Cynhelir arddangosfa ysbrydoledig o beintiadau a gwaith celf cyfrwng cymysg gan yr artistiaid dawnus Gill Benjamin a Jackie Walter o Fynydd Isa, Sir y Fflint yn Llyfrgell Bwcle rhwng 1 a 23 Rhagfyr. Dyma’r chweched mewn cyfres o arddangosfeydd, Lliw yn y Llyfrgell, sy’n anelu at gefnogi artistiaid lleol, rhai ohonynt sydd erioed wedi arddangos eu gwaith o’r blaen, drwy roi llwyfan iddynt arddangos i’r cyhoedd. Drwy gydol y flwyddyn bydd y rhaglen o arddangosfeydd yn Llyfrgelloedd Sir y Fflint yn cynnwys peintiadau gan Angie Hoopert, Emma-Jayne Holmes a Clayton Langford a ffotograffiaeth gan Ceridwen Barkley. Meddai Gill Benjamin: “Artist amatur ydw i sy’n byw yn Mynydd Isa. Rydw i wedi mwynhau peintio drwy gydol fy oes, ond ers i mi ymddeol, gallaf fwynhau fy angerdd tuag at beintio’n fwy cyson. Mae pob pwnc o ddiddordeb i mi – yn arbennig tirweddau, morluniau, pensaernïaeth a phortreadau o anifeiliaid. Rwy’n croesawu heriau newydd. Rwy’n mwynhau gweithio mewn nifer o gyfryngau: acrylig yw fy ffefryn ar hyn o bryd.” Meddai Jackie Walter: “Ar ôl ymddeol rwyf wedi dychwelyd at ddiddordeb yr wyf wrth fy modd yn ei wneud……. Peintio! Rwy’n cael fy ysbrydoli gan natur a chefn gwlad hardd Cymru, cyrchfannau gwyliau ac yn aml ffotograffau sy’n mynnu cael eu peintio. Mae gennyf chwilfrydedd am weadau mewn creigiau a phlanhigion ac rwy’n mwynhau gweithio gyda chyllell balet i greu effaith. Mae pob darn o waith yn mynd â fi ar siwrnai wahanol ac yn dod â phrofiadau newydd i mi. Rwy’n aelod o Rwydwaith Celf a Chrefft Gweledol Sir y Fflint a Grwp Celf Treffynnon. Rwyf wedi mwynhau arddangos a gwerthu fy ngwaith yn lleol ac rwyf wedi cwblhau nifer o beintiadau ar gomisiwn.” Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg: “Rwy’n falch fod tîm Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Sir y Fflint a’n gwasanaeth Llyfrgelloedd yn parhau i gefnogi doniau lleol – gan arddangos eu gwaith a chefnogi ein hartistiaid fel busnesau.” Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwenno Jones drwy e-bostio gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk