Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwahardd gwaith ffordd dros y Nadolig

Published: 01/12/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gosod gwaharddiad ar waith ffordd nad ywn waith brys ar bob prif lwybr drwy Sir y Fflint ac yng nghanol trefi yn ystod cyfnod y Nadolig. Dywedodd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd, “Oherwydd y cynnydd sylweddol mewn traffig cerbydau a cherddwyr yng nghanol ein trefi a’r cyffiniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a dros yr wyl a’r Flwyddyn Newydd, rydym wedi cyflwyno gwaharddiad ar waith ffordd er mwyn lleihaur tagfeydd traffig ar rwydwaith priffyrdd y Cyngor. Maer Cyngor Sir hefyd yn gweithion agos gyda’r cwmnïau cyfleustodau er mwyn osgoi tagfeydd a sicrhau hyfywedd parhaus yn ein trefi. Bydd y gwaharddiad yn dechrau ddydd Gwener 11 Rhagfyr ac yn parhau mewn grym tan ddydd Llun 4 Ionawr 2016.