Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cerdyn llyfrgell i bob plentyn
Published: 22/05/2014
Mae llyfrgelloedd ac ysgolion cynradd Cymru yn ymuno i gyflenwi pob plentyn
ysgol gynradd â cherdyn llyfrgell am ddim - gan ddechrau gyda phlant 8/9 oed
mewn chwe awdurdod lleol - Blaenau Gwent, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr
Tudful, Powys ac Abertawe.
Wrth lansio’r fenter yn Llyfrgell Bwcle ar ddydd Mawrth 20 Mai dywedodd y
Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg:
“Cymerodd dros 42,000 o blant Cymru ran yn Sialens Ddarllen yr Haf y llynedd, a
fu’n rhedeg mewn 245 o lyfrgelloedd ar draws y wlad.
“Fe wnaeth y plant hynny a fu’n cymryd rhan gynnal neu wella’u lefelau darllen
ac mae llyfrgelloedd ar draws Sir y Fflint yn gobeithio adeiladu ar hyn trwy
roi cyfle i bob plentyn ddefnyddio’u llyfrgell i fenthyca llyfrau a chael at yr
holl wasanaethau eraill sydd ar gael iddynt.”
Fel hyrwyddwr y fenter newydd, dywedodd Dr Rhys Jones - sy’n fwyaf adnabyddus
am ei gyfresi llwyddiannus iawn ar y BBC, yn cynnwys ‘Rhys to the Rescue’ a ‘Dr
Rhys Jones’s Wildlife Patrol’: “Mae llyfrgelloedd yn adnodd mor bwysig - maen
nhw’n lle gwych i blant adael i’w dychymyg dyfu a datblygu ac mae hi’n hanfodol
bwysig ein bod yn annog ein plant i ddarllen mwy nid yn unig i wella’u lefelau
llythrennedd ond hefyd i’w helpu gyda sgiliau bywyd a chyfleoedd yn y dyfodol.”
Mynychodd disgyblion Blwyddyn Pedwar o Ysgol Gynradd Drury lansiad y digwyddiad
a gwnaeth eu hathro, Mr Jack Crompton y sylw: “Mae cael y plant allan o’r ysgol
ac i mewn i’r llyfrgell, gan eu galluogi i ddewis eu llyfrau eu hunain a’u
clywed yn trafod eu ffefrynnau, yn ardderchog. Ac os gallwn ni annog pob
plentyn i ddefnyddio’r llyfrgell bydd yn sicr o gael effaith fuddiol ar sut y
maen nhw’n perfformio yn yr ystafell ddosbarth hefyd.”
Bydd y cerdyn llyfrgell hwn yn caniatáu i’r plant fenthyca llyfrau’n syth bin a
chael bag pethau da am ddim i gario’u llyfrau adref â nhw. Unwaith y caiff
prawf cyfeiriad ei ddarparu, gallant gael mynediad wedyn at filoedd o lyfrau am
ddim yn ogystal â llawer mwy o adnoddau i helpu i wella’u gwaith ysgol a
chyfoethogi eu hamser hamdden, yn cynnwys ffuglen, llyfrau ffeithiol, comics,
nofelau graffig a llyfrau llafar am ddim; help am ddim gyda gwaith cartref –
ar-lein ac yn y llyfrgell; defnydd cyfrifiadur a mynediad i’r rhyngrwyd am ddim
ac e-lyfrau ac e-gylchgronau am ddim.
Mae’r prosiect hwn yn cyfannu ymgyrch “Rho Amser i Ddarllen” Llywodraeth Cymru
hefyd, gall dim ond 10 munud o ddarllen bob dydd wneud gwahaniaeth mawr. Bydd
darllen llyfrau gartref yn eich helpu i fwynhau darllen ac i wneud yn well yn
yr ysgol.
I gael mwy o wybodaeth ewch i: www.welshlibraries.org/schools
Capsiwn y llun: Plant o Ysgol Gynradd Drury gyda gwesteion o’r digwyddiad
lansio.