Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad or Cynllun Gwella

Published: 10/12/2015

Bydd aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael diweddariad am gynnydd Cynllun Gwella 2015/16 y Cyngor pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 15 Rhagfyr. Mae’r Cyngor yn gosod allan ei flaenoriaethau gwella bob blwyddyn yn y Cynllun Gwella, gan weithio ar dargedau cyffredinol i ddatblygu gwasanaethau a safonau byw ar draws y Sir. Mae adroddiad monitro dydd Mawrth yn darparu asesiad canol blwyddyn ac yn dangos p’un a yw’r Cyngor ar y trywydd cywir i gyflawni’r effeithiau a ddymunir. Mae’r uchafbwyntiau a gyflawnwyd hyd yma yn y flwyddyn ariannol hon yn cynnwys: • cynorthwyo i greu 404 o swyddi yn y sir - 67 yn yr Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy • mae gwaith adeiladu prosiectau Moderneiddio Ysgolion yng Nghei Connah (ôl-16) a Champws Dysgu Threffynnon yn mynd rhagddynt, ac ar hyn o bryd meant ar amser ac o fewn y gyllideb • mae 39 o eiddo gwag hir dymor bellach yn cael eu defnyddio eto o ganlyniad i gyllid gan Gynlluniau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (24) a Throi Tain Gartrefi (15) Llywodraeth Cymru • mae caniatâd cynllunio wedii roi ar gyfer y gwaith o adeiladu Cartref Gofal Ychwanegol ar gyfer y Fflint a disgwylir i’r gwaith ddechrau yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd • cefnogaeth barhaus i bobl ifanc sydd, neu sydd mewn perygl o fod yn NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) drwyr Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid • mae ceisiadau cynllunio wedi’u cyflwyno ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy yn The Walks, Y Fflint a hen safle Ysgol Custom House Lane, Cei Connah • mae cyllid Cartrefi Cynnes wedi’i ddiogelu ar gyfer rhannau o Shotton a Garden City • sefydlu un uned ddiogelu ar gyfer oedolion, pobl ifanc a phlant Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, Maer Cyngor yn parhau i brofi ei hun yn sefydliad syn perfformion dda a thrwyr Cynllun Gwella, rydym yn blaenoriaethu meysydd a gwasanaethau syn bwysig ir gymuned ac in trigolion. Er gwaethaf y rhagolygon ariannol ar gyfer Llywodraeth Leol, mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod yn uchelgeisiol, arloesol ac yn benderfynol o gyflawni ein blaenoriaethau syn cynnwys, cynorthwyo pobl i gael mynediad at dai fforddiadwy priodol, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth o ansawdd. Meddai Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor: Mae’n perfformiad yn erbyn ein blaenoriaethau yn dystiolaeth dda o ba mor dda y mae’r Cyngor yn cyflawni’r pethau sydd fwyaf pwysig in cymunedau. Trwy fonitro Cynllun Gwellar Cyngor ar wahanol gyfnodau yn ystod y flwyddyn, gallwn asesu a ydym yn mynd i gyrraedd targedau a osodwyd i wella gwasanaethau i drigolion a chanolbwyntio ein hymdrechion ar ein blaenoriaethau lleol.