Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwella ffyrdd yn Queensferry

Published: 17/12/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau arian gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cynllun Trafnidiaeth Leol i roi cynllun ar waith i wella cylchfan Queensferry a’r gyffordd gerllaw Asda; mae tagfeydd hir yn y man hwn ar hyn o bryd yn ystod cyfnodau prysur. Bydd y cynnig yn ategu’r cynllun llwyddiannus a gwblhawyd yn ddiweddar i wella llif y traffig ar hyd Coridor Glannau Dyfrdwy ar y B5129. Bydd datblygiadau eraill sydd ar y gweill ar gyfer ardal Glannau Dyfrdwy, fel Porth y Gogledd, yn cynyddu traffig yn y gyffordd bwysig hon, a bydd y cynlluniau hyn i wella llif y traffig yn helpu’r rhwydwaith i ymdopi â’r cynnydd arfaethedig. Bydd y gwaith yn mynd rhagddo rhwng mis Chwefror 2016 a mis Ebrill 2016 a bydd yn cynnwys: . Lledu ffyrdd ymuno ac ymadael yr A494 a chylchfan Queensferry . Lledu cylchfan Queensferry i greu lonydd ychwanegol . Ailfodelu’r gyffordd ar y B5129 a’r B5441 yn Asda. . Gosod goleuadau ffordd ar y ffyrdd dynesu at gylchfan Queensferry . Gwella a chydgysylltu’r holl oleuadau traffig - hen a newydd. Mae’r Cyngor yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi ac anhwylustod y bydd y gwaith yn ei achosi a bydd yn cyhoeddi manylion yr holl drefniadau rheoli traffig wrth i’r cynllun fynd rhagddo. Bydd modd mynediad i fusnesau ac eiddo yn yr ardal yn parhau drwy gyfnod y cyfnod dan sylw. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd; “Nodwyd y cynllun hwn fel un o flaenoriaethau’r Cyngor yng Nghynllun Trafnidiaeth Lleol Gogledd Cymru a gyflwynwyd yn ddiweddar ac rwy’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r cais a’i bod yn cydnabod ei bod yn hanfodol gwella’r gyffordd bwysig hon er mwyn cryfhau’r rhwydwaith priffyrdd a Phorth allweddol i Ogledd Cymru. Bydd yn hwb i’r twf economaidd arfaethedig yn yr ardal hon.’’ Cynhelir sesiwn galw heibio agored ar 7 Ionawr yn Neuadd Goffa Queensferry rhwng 12.30 a 6.30pm. Yno, bydd modd gweld y cynlluniau a bydd swyddogion y Cyngor wrth law i ateb cwestiynau gan y cyhoedd neu fusnesau lleol am y gwaith.