Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu yn agor yn swyddogol
Published: 23/05/2014
Mae ail ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu wedi agor yn swyddogol yn y Fflint i
gynnig gwasanaethau cwsmeriaid a chyngor o’r radd flaenaf i bobl y dref.
Agorodd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y
Llywodraeth, y ganolfan drwy dorri’r rhuban mewn seremoni ddydd Gwener 16 Mai o
flaen gwleidyddion ac arweinwyr cymunedol lleol, swyddogion y cyngor, staff
Heddlu Gogledd Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith.
Mae canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn cael eu cyflwyno’r raddol gan
Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’i rhaglen i wella gwasanaethau cwsmeriaid, i’w
gwneud yn haws i bobl siarad ag ymgynghorwyr y Cyngor mewn lleoliadau hwylus
yng nghanol y dref.
Gall cwsmeriaid gyfarfod â swyddogion gwasanaethau cwsmeriaid a fydd yn gallu
rhoi gwybodaeth iddynt, ateb cwestiynau, ymdrin â cheisiadau am wasanaethau a
rhoi cymorth mewn perthynas ag amrywiol wasanaethau gan gynnwys tai,
gwasanaethau stryd, budd-daliadau lles, bathodynnau glas, cardiau teithio rhad
a’r dreth gyngor. Mae’r canolfannau hefyd yn gyfrwng i weithio mewn
partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith, sydd â staff yn
gweithio yn y ganolfan, gan ddarparu rhwydwaith o sefydliadau cydgysylltiedig
i bobl leol.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth:
“Bydd canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu yn ei gwneud yn haws i bobl y Fflint
fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus.
“Yn ystod fy nhaith o amgylch awdurdodau lleol yr haf diwethaf, gwelais rai
enghreifftiau gwych o gydweithio. Roedd hyn yn amlwg yng nghanolfan Sir y
Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon lle mae gwasanaethau’r Cyngor Sir i gyd o dan
yr un to, ynghyd â Chanolfan Byd Gwaith a Heddlu Gogledd Cymru, i gynnig
gwasanaethau cydgysylltiedig llwyddiannus.
“Rwy’n falch bod arian Llywodraeth Cymru yn helpu’r awdurdod lleol i gyflwyno’r
fenter hon a fydd yn awr yn gwasanaethu pobl y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd: “Unwaith eto, mae
Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus gyda Heddlu’r
Gogledd a’r Ganolfan Byd Gwaith i gynnig gwasanaethau lleol o dan yr un to.
Mae’n wirioneddol bwysig bod cwsmeriaid yn gallu dewis siarad wyneb yn wyneb ag
ymgynghorwyr gwasanaethau’r Cyngor ac mae canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu yn
rhoi’r cyfle hwn iddynt.
“Mae hyn yn dilyn llwyddiant ein canolfan gyntaf yn Nhreffynnon, ac mae’n
gwneud synnwyr bod cyrff lleol yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig y
gwasanaethau gorau bosibl.”
Yn ôl Julian Sandham, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru:
“Mae Sir y Fflint yn Cysylltu yn syniad gwych i greu siop un stop i sicrhau ei
bod yn haws i bobl fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys
yr heddlu.
“Mae’r fenter hon yn cyd-fynd yn berffaith ag un o amcanion allweddol ein
Cynllun Heddlu a Throseddu i hybu dulliau o gydweithredu a gweithio mewn
partneriaeth â’r gwahanol asiantaethau yng Ngogledd Cymru. Bydd yn cynnig
gwasanaethau symlach a mwy cydgysylltiedig mewn amgylchedd modern a chroesawgar
ac mae hynny’n ddi-os yn fuddiol i bawb.”
Dywedodd John Bisby, Rheolwr Rhanbarth Canolfan Byd Gwaith Gogledd a
Chanolbarth Cymru:
“Mae hwn yn gam mawr ymlaen yn y broses o foderneiddio’n gwasanaethau yn Sir y
Fflint. Bydd y gwasanaeth ar y safle hwn yn ei gwneud yn haws i’n cwsmeriaid
gysylltu’n ddigidol gan barhau i gynnig cymorth wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n
dymuno hynny.”
Mae’r ganolfan ar lawr daear Swyddfeydd y Sir ar Heol yr Eglwys, y Fflint, yn
union gyferbyn â’r llyfrgell ac mae ar agor rhwng 8.30am a 6pm o ddydd Llun i
ddydd Gwener a rhwng
9am a 12 hanner dydd ar ddydd Sadwrn. Bydd heddlu’r Gogledd yn cynnal
cymorthfeydd bob dydd Gwener rhwng 10am a 12 hanner dydd a bydd yn treialu
gwasanaeth cownter yn y prynhawn.
Mae peiriant talu hunanwasanaeth hefyd wedi’i osod a fydd yn caniatáu i
gwsmeriaid dalu i unrhyw gyfrif gyda’r Cyngor Sir ac yn caniatáu i aelodau
Undeb Credyd Sir y Fflint ac Undeb Credyd Gogledd Cymru wneud taliadau. Bydd
ymgynghorwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid Sir y Fflint yn Cysylltu wrth law i helpu
cwsmeriaid i ddefnyddio’r peiriannau newydd.
Bydd dwy ganolfan arall yn agor eleni gyda Sir y Fflint yn Cysylltu yn agor yng
Nghei Connah yn ystod yr haf 2014 ac ym Mwcle yn ddiweddarach yn 2014, sy’n
golygu y bydd pedair canolfan ar agor erbyn hynny.
Pennawd o’ch chwith i’r dde: Cyngh Carolyn Thomas, John Bisby Rheolwr Rhanbarth
Canolfan Byd Gwaith Gogledd a Chanolbarth Cymru, Colin Everett Prif Weithredwr
Cyngor Sir y Fflint, Julian Sandham Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu
Gogledd Cymru, Lesley Griffiths AC, Cyngh Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd
Cyngor Sir y Fflint, Prif Gwnstabl Gogledd Cymru, Mark Polin.