Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cerdyn Nadolig Arweinydd y Cyngor 
  		Published: 18/12/2015
Mae disgybl ysgol leol wedi ennill cystadleuaeth i ddefnyddio ei gwaith celf 
fel cerdyn Nadolig swyddogol gan Arweinydd Cyngor Sir y Fflint.
Bob blwyddyn mae’r Cynghorydd Aaron Shotton yn gwahodd plant ysgol i dynnu llun 
tymhorol gydar dyluniad buddugol yn cael ei argraffun broffesiynol.
 Eleni daeth tro disgyblion Ysgol Gynradd Cae’r Nant, Cei Connah ac ymwelodd y 
Cynghorydd Shotton âr ysgol i gwrdd â rhai or rhai oedd 
 wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth a enillwyd gan ddisgybl blwyddyn 5 Georgia 
Manifold.
Mae Georgia yn derbyn tocynnau ar gyfer pantomeim Cinderella yn Theatr Clwyd.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Jake, Caitlyn, Lottie a Sam. 
Dywedodd y Cynghorydd Shotton: “Roedd y safon yn uchel iawn ac roeddwn yn hapus 
iawn gyda chreadigrwydd yr holl ddyluniadau. Gwnaeth y disgyblion ymdrech fawr 
iawn ac roedd yn anodd iawn dewis enillydd. Maer cerdyn yn cael ei anfon at 
holl Gynghorwyr a chynrychiolwyr y Llywodraeth gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, 
Carwyn Jones AC.”
Capsiwn: Y Cynghorydd Shotton gyda rhai or disgyblion a gymerodd ran yn y 
gystadleuaeth