Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaethau’n cau dros y Nadolig

Published: 21/12/2015

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cau Neuadd y Sir ac adeiladau eraill rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd er mwyn arbed arian drwy leihau’r gost o redeg eiddor Cyngor dros gyfnod tawel y Nadolig. Ni fydd hyn yn effeithio ar wasanaethau hanfodol megis gwaith trwsio brys gan y Gwasanaethau Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaethau Stryd; bydd y rhain yn parhau. Neuadd y Sir, yr Wyddgrug - yn cau am 5pm ddydd Iau 24 Rhagfyr 2015 ac yn ail-agor ddydd Llun 4 Ionawr. Swyddfa Gofrestru, Plas Llwynegrin ,Yr Wyddgrug – bydd gwasanaethau cyfyngedig, a bydd ar agor yn ôl anghenion y gwasanaeth Gwnaed y penderfyniad i gaur adeiladau gan fod y Cyngor yn wynebu toriadau ir gyllideb na welwyd eu tebyg or blaen. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: Fel nifer o sefydliadau, mae gweithlu’r Cyngor yn lleihau dros gyfnod y Nadolig fel arfer gan fod nifer o weithwyr yn cymryd gwyliau i dreulio amser gydau teuluoedd. Waeth faint o staff sydd yn ein swyddfeydd yn ystod y cyfnod hwn, yr un yw’r gost o’u gwresogi a’u goleuo. Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni nid yw hyn yn ffordd effeithlon o ddefnyddio adnoddau ac felly gwnaed penderfyniad i gau Neuadd y Sir ar adeiladau ar y safle’n gyfan gwbl dros gyfnod y Nadolig. Dywedodd y Prif Weithredwr Colin Everett: Gallaf sicrhau’r cyhoedd y bydd y gwasanaethau allweddol yn parhau yn ystod y cyfnod hwn. Ni fydd yn effeithio ar wasanaethau hanfodol nar gwasanaethau brys.