Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pass Plus Cymru ar gyfer gyrwyr newydd

Published: 05/01/2016

Mae gyrwyr newydd rhwng 17 a 25 oed sydd wedi pasio eu prawf yn ddiweddar yn gallu elwa o gwrs Pass Plus Cymru a ariennir gan y Llywodraeth. Gall unrhyw berson ifanc, 17-25 oed sydd wedi pasio eu prawf, ac syn byw yng Nghymru elwa ar y cwrs am gost cymorthdaledig o £20. Nod y cwrs yw lleihau nifer y bobl ifanc syn cael eu lladd neu eu hanafun ddifrifol mewn digwyddiadau traffig ffordd ac mae’n cynnwys: • Peryglon defnyddio ffôn symudol wrth yrru • Peryglon yfed a chyffuriau wrth yrru • Teithio ar y draffordd • Technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon • Teithio o gwmpas fin nos • Ymdopi mewn trefi a dinasoedd prysur • Gyrru ar ffyrdd gwledig Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Nod y cyrsiau hyn yw cyflawni sgiliau gyrru gwell a lleihau’r siawns o gael gwrthdrawiad neu anafu eich hun, ffrindiau ac eraill. Byddwn yn annog pob gyrrwr newydd or oedran hwn i gymryd y cyfle hwn a chymryd rhan yn Pass Plus Cymru i ddysgu sgiliau gyrru newydd a chadwn ddiogel. Maer cwrs nesaf dydd Llun 11 Ionawr yn dechrau am 6.30pm yn Nepo Alltami, Cyngor Sir y Fflint, Ffordd Yr Wyddgrug, Alltami. I gael rhagor o wybodaeth, neu i drefnu lle ar gwrs, ffoniwch 01745 828180 neu ewch i www.dragondriver.com