Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith o adeiladu tai cyngor ar fin dechrau

Published: 07/01/2016

Ym mis Rhagfyr, cafodd Cyngor Sir y Fflint ganiatâd i fwrw ymlaen â’i gynlluniau uchelgeisiol i adeiladu tai cymdeithasol newydd a fforddiadwy yn y sir. Cafodd ganiatâd cynllunio i godi 12 o dai cyngor newydd yng Nghei Connah ar safle hen Ysgol Custom House Lane oddi ar Ffordd yr Wyddgrug. Mae’r datblygiad ar safle Custom House yn rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP) i godi 500 o gartrefi newydd yn Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf. Bydd Wates Living Space, partner tai strategol y Cyngor, yn dechrau ar y gwaith adeiladu ym mis Chwefror 2016, a bydd wedi’i gwblhau erbyn mis Chwefror 2017. Caiff y tai eu hadeiladu i safon uchel a byddant yn bodloni Safon Tai Sir y Fflint a Secured by Design. Bydd y cynllun yn seiliedig ar edrychiad yr hen ysgol a bydd y deunyddiau adeiladu’n gydnaws â’r ardal leol. Mae’r deunyddiau eraill y bwriedir eu defnyddio’n cynnwys nodweddion gwaith brics glas ar y waliau allanol a chyrsiau sy’n efelychu nodweddion yr adeilad gwreiddiol (linteri cerrig a manylion fel cerrig yn nodi’r dyddiad) a nodweddion a gafodd eu hadfer wrth ddymchwel yr hen ysgol. Bydd ffin y datblygiad yn cynnwys rheiliau haearn gyr ar wal frics isel. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai: “Bydd y gwaith o adfywio’r safle hwn yn rhoi cyfle gwell i bobl leol gael ty yng Nghei Connah ac mae’n nodi dechrau cyfnod cyffrous yn hanes y Cyngor gan y bydd yn cyflawni hen uchelgais i ddarparu tai fforddiadwy o safon; tai y mae eu dirfawr angen ar hyd a lled y sir. Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: Rwy’n falch mai Sir y Fflint fydd y Cyngor cyntaf yn y Gogledd i ddechrau gweithio ar safle fel rhan o raglen adeiladau tai cyngor. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gymryd camau pendant i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn 2016 ac rwy’n ymfalchïo yn y ffaith mai yng Nghei Connah y caiff y tai cyngor cyntaf i’w hadeiladu yn y sir ers cenhedlaeth”. Nodyn i olygyddion Mae darlun o gynllun Custom House ynghlwm