Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cymunedau gwledig yn dangos diddordeb mewn rhedeg llyfrgelloedd lleol 
  		Published: 07/01/2016
Bydd cynghorwyr yn ystyried ymateb tri chymuned i gynigion ar gyfer dyfodol 
tair llyfrgell wledig pan fyddant yn cyfarfod ddydd Llun 11 Ionawr.
Bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu Newid Sefydliadol yn clywed bod gan grwpiau 
lleol yn yr Hôb a Mynydd Isa ddiddordeb mewn rhedeg y llyfrgelloedd yn rhan 
amser yn eu pentrefi, a hynny fel rhan o gynllun y Cyngor i weithio mewn 
partneriaeth â chymunedau i drosglwyddo rhai o’i asedau cymunedol.
Gall cynghorau ddewis trosglwyddo adeiladau a thir i’r gymuned neu grwpiau 
elusennol er mwyn iddyn nhw gynnal yr adeiladau a’r gweithgareddau sydd dan 
fygythiad. Gallai unrhyw drefniant ar gyfer y ddwy lyfrgell fod ar waith erbyn 
1 Ebrill, os bydd y Cabinet yn derbyn y cynnig.
Yn Saltney, ystyrir cais gan gynghorwyr sir lleol  i ymestyn y cyfnod a bennwyd 
i ymchwilio i atebion posibl i’r broblem yn lleol.
Fis Mawrth diwethaf, cytunodd y Cabinet ar Gynllun Llyfrgell Tymor Canolig, a 
oedd yn amlinellu seilwaith cynaliadwy i’r llyfrgelloedd yn y dyfodol. Roedd yn 
cynnwys sefydlu canolfannau llyfrgell yn yr Wyddgrug, Treffynnon, Cei Connah, 
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Bwcle a’r Fflint. Mae’r posibilrwydd o 
drosglwyddo asedau cymunedau yn cael ei ystyried ar gyfer llyfrgelloedd 
gwledig. Bydd y gwaith o adleoli llyfrgelloedd Queensferry, Mancot a Phenarlâg 
i lyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy wedi’i gwblhau erbyn 1 
Mawrth.
Drwy ddefnyddio’r cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer llyfrgelloedd 
yr Hôb, Mynydd Isa a Saltney, gellid helpu’r Cyngor i sicrhau arbedion 
arfaethedig o £0.544m yn 2016/17 drwy’r cynllun hwnnw.
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:
Rwy’n falch bod grwpiau lleol wedi dangos diddordeb brwd mewn datblygu ffyrdd 
eraill o sicrhau y bydd gweithgareddau’r llyfrgell yn parhau.  Bydd y Cyngor yn 
gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau y bydd y newidiadau’n mynd rhagddynt 
yn ddidrafferth os caiff y cynigion eu derbyn. Oherwydd y pwysau ariannol 
presennol, nid oes gennym fawr o ddewis ond ystyried ffyrdd newydd o ddiogelu 
asedau lleol pwysig ac rydym yn croesawu cefnogaeth cymunedau lleol yn y 
cyswllt hwn.”