Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwelliannau i leoedd parcio yn Nhalacre

Published: 14/01/2016

Amlinellir mesurau arfaethedig i wella lleoedd parcio ar gyfer ymwelwyr i Dalacre ai draeth mewn adroddiad i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ar 19 Ionawr. Maer traeth yn Nhalacre yn denu ymwelwyr o ardal eang ac fei defnyddir yn helaeth gan bobl leol. Mae hefyd yn lleoliad poblogaidd ac eiconig ar gyfer ffotograffiaeth a ffilmio. Mae’r Cyngor, sy’n gweithio gyda’r perchnogion tir ENI Liverpool Bay Operating Company Limited a Chyfoeth Naturiol Cymru, ar ôl sicrhau arian allanol hefyd, wedi datblygu cynllun i fynd ir afael âr problemau parcio ac ehangu nifer y lleoedd yn yr ardal. Yn gynharach eleni, dechreuwyd gweithredu maes parcio ychwanegol 150 lle yn y pentref, sydd ar gael am gyfnod o ddeng mlynedd. Cynigir hefyd y bydd mwy o leoedd ar gael pan fydd maes parcio’r Goleudy yn cael ei brydlesu oddi wrth ei berchnogion a’i reoli gan y Cyngor (60 o leoedd), ac mae trafodaethau gyda Chanolfan Gymunedol Talacre i ddefnyddior tir yng nghefn yr adeilad ar gyfer parcio (70 o leoedd) yn parhau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac ENI wedi cytuno y gall y Cyngor reolir ardal arwyneb caled wrth fynedfa maes parcio’r traeth i gynyddu ei argaeledd (35 lle) gyda rhywfaint o waith cynnal a chadw ar raddfa fach i gael ei wneud ar faes parcio’r traeth i gynyddu ei argaeledd i’w ddefnyddio gan ymwelwyr, er y gallai orfod cau oherwydd llifogydd a bydd ei faint yn lleihau dros amser wrth i’r cynefin naturiol adfywio ei hun (100 o leoedd) Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae Talacre yn gwneud cyfraniad pwysig at economi dwristiaeth Sir y Fflint ond mae lleoedd parcio cyfyngedig wedi bod yn fater o bwys i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. “Maer rhan fwyaf o ymwelwyr yn defnyddio maes parcio’r traeth trwy gydol y flwyddyn ond mae’n agored i lifogydd a phan fydd hyn yn cyd-fynd â’r cyfnod prysuraf o ran ymwelwyr, mae’r galw am barcio yn llawer uwch nag y gellir ei gyflenwi. Mae ymwelwyr yn parcio ym mhob lle sydd ar gael yn y pentref, gan achosi cryn anhwylustod i bobl leol gyda thraffig yn tagu’r ffyrdd cul. Mae ymwelwyr yn wynebu ciwiau hir i fynd i mewn ir pentref, ac nid oes digon o leoedd pan fyddant yn cyrraedd yno, ac yna rhaid iddynt aros dros awr i adael eto. “Bydd ein cynigion yn gwella pethau yn sylweddol gydar potensial o gynyddu mannau parcio i 415 cyn haf 2016 os gellir gwneud cytundebau gydar sefydliadau lleol. Os gellir cyflawni hyn, bydd Gorchymyn Rheoli Traffig hefyd yn cael ei roi ar waith i reoli parcio ar y stryd, gan leihau tagfeydd ar ddiwrnodau prysur, ac yn lleddfu problemau i drigolion.”