Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu cymhorthdal i wasanaethu bws

Published: 14/01/2016

Yn ei gyfarfod ar 19 Ionawr, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn trafod y cymhorthdal i wasanaethau bws a gymeradwywyd gan y Cabinet fis Mai 2015. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn gwario £1,046,180 ar gymhorthdal i redeg oddeutu 30 o wasanaethau bws, naill drwy ddarparu cytundebau penodol neu drwy roi cymhorthdal i weithredwyr masnachol redeg gwasanaethau na fyddent, fel arall, yn ymarferol o safbwynt ariannol. Fel arfer, gwasanaethau gwledig yw’r rhain, neu wasanaethau sy’n rhedeg ben bore, gyda’r nos, ar ddydd Sul neu wyliau banc, ynghyd â rhai gwasanaethau cludiant ysgolion a gwasanaethau i bentrefi, ystadau tai neu safleoedd gwaith arbennig, na ellid eu darparu fel arall. Yn dilyn adolygiad o’r gwasanaethau sy’n derbyn cymhorthdal, gwelwyd mai prin iawn yw’r teithwyr ar rai siwrneiau ac nid ydynt, felly, yn gynaliadwy. Yn unol â’r adolygiad hwn, cynigir rhoi’r gorau i’r cymhorthdal ar gyfer y gwasanaethau bws nad ydynt yn cael eu defnyddio’n aml a chreu rhwydwaith o wasanaethau bws effeithiol ac effeithlon sy’n cynnwys nifer o ‘ganolfannau’ trafnidiaeth. Drwy weithio gyda’r cynghorau tref a chymuned, cymunedau a busnesau lleol a chyrff gwirfoddol, bydd y Cyngor yn helpu i wella a datblygu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol i greu cysylltiadau rhwng cymunedau lleol a’r rhydwaith craidd drwy gyfrwng y ‘canolfannau trafnidiaeth’. Bydd y Cabinet yn ystyried ac yn trafod rhydwaith craidd y gwasanaethau bws, dileu’r gwasanaethau sy’n dibynnu ar gymhorthdal a chynigion y Cyngor i weithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol, ynghyd â’r sylwadau a gafwyd gan Bwyllgor Arolygu a Chraffu’r Amgylchedd yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae sefydlu rhwydwaith craidd o wasanaethau bws yn ffactor bwysig yn y broses o hybu twf economaidd a hybu iechyd a lles cymdeithasol. “O gofio’r problemau ariannol parhaus sy’n wynebu’r Sir, mae’n bwysig bod unrhyw gymhorthdal y mae’r Cyngor yn ei roi’n fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn sicrhau gwerth am arian. “Yn ystod y sesiynau cyhoeddus ‘Dyma’n Cyfle Ni’, a gynhaliwyd ddiwedd y flwyddyn, roedd yn galonogol clywed bod pobl leol a grwpiau cymunedol yn awyddus i helpu i achub gwasanaethau sy’n bwysig iddynt a hefyd yn lleisio pryderon am gost y gwasanaethau bws sy’n derbyn cymhorthdal er mai prin iawn yw’r rhai sy’n eu defnyddio. Rydym yn awr yn awyddus i adeiladu ar y brwdfrydedd hwnnw ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu cynlluniau.”