Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Maniffesto CLlLC

Published: 14/01/2016

Cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ei Maniffesto ar gyfer llywodraeth leol yn ddiweddar, sef ‘Lleoliaeth 2016-21’. Cynllun sy’n cynnwys 40 o bwyntiau yw hwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac fe’i cyhoeddwyd cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol a gaiff eu cynnal fis Mai 2016. Mae Maniffesto CLlLC yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio’i gweledigaeth ar gyfer swyddogaethau a chyfrifoldebau llywodraeth leol, ei chynlluniau ar gyfer diwygio llywodraeth leol, a sut y mae am sicrhau cyllid teg a hyblyg a’i hymrwymiad i ‘Sybsidiaredd’, sy’n rhagdybio y caiff pwer ei drosglwyddo i’r lefel honno o lywodraeth sydd agosaf at y bobl. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, Cawsom gryn gefnogaeth i’n sylwadau pendant a chytbwys a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi ddeall y problemau sy’n wynebu’r Cyngor a’i helpu i ymdopi â nhw. Mae hyn yn adlewyrchu momentwm cynyddol o blith unigolion, grwpiau a sefydliadau i weithio gyda ni i ddiogelu gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol. “Yn ei setliad dros dro a gyflwynodd i lywodraeth leol, mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr achos cryf a gyflwynodd CLlLC dros arafu’r toriadau a chafodd hynny ei groesawu’n eang. “Mae gan Lywodraeth Cymru rôl strategol genedlaethol glir, ond mae Sir y Fflint a chynghorau eraill yn awyddus i weld pwysau cynyddol i ddatganoli pwerau i lywodraeth leol a chymunedau lleol.” Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Ionawr, bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried gwahoddiad gan CLlLC i gefnogi ei faniffesto’n ffurfiol ac i ymuno â CLlLC a chynghorau eraill i weithio gyda’r Llywodraeth newydd a gaiff ei hethol yng Nghymru fis Mai i’w hannog i fabwysiadu cynigion y Maniffesto yn ei pholisïau a’i chynlluniau ariannu.