Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyfrif Refeniw Tai

Published: 14/01/2016

Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Ionawr, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2016/17. Mae’r gyllideb ddrafft yn cynnig cynnydd mewn rhent o 1.4% (yn ogystal â hyd at neu £2 yn llai) gyda rhent targed i denantiaethau newydd, a chyflwyno taliadau gwasanaeth ar gyfer glanhau mannau cymunedol, gwasanaethau digidol a chynnal a chadw erial ar gyfer tenantiaethau cyfredol. Maer gyllideb ddrafft hefyd yn darparu buddsoddiad parhaol yn y stoc dai er mwyn cwrdd â safonau Safon Ansawdd Tai Cymru a chychwyn rhaglen adeiladu tai newydd. Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, “Rwyf wrth fy modd bod y gyllideb Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2016/17 y byddwn yn ei hargymell i’r Cyngor Sir i’w chymeradwyo fis Chwefror yn gweld y buddsoddiad mwyaf a welwyd erioed mewn blwyddyn yn Sir Fflint ar wella cartrefi tenantiaid ar gost o £21 miliwn, yn ogystal â buddsoddiad cychwynnol o dros £4 miliwn er mwyn cychwyn rhaglen adeiladu tai cyngor. Dywedodd y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai, “Rhaid i’r Cyfrif Refeniw Tai fod â chynllun ariannol byr dymor a hir dymor mewn lle. Mae’r cynllunio tymor byr yn dangos sut bydd safon Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei gyrraedd, addewidion dogfen Dewisiadau yn cael eu cadw, a 200 o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu. “Mae’r cynllun tymor hir yn dangos cyfrif hyfyw gydag incwm dros ben dros anghenion gwariant. Mae hyn rhoi mwy o gyfleoedd i’r Cyngor wella darpariaeth gwasanaeth; yn darparu sicrwydd y gellir cynnal Ansawdd Safonau Tai Cymru unwaith y byddant wedi eu cyrraedd, a gallai ddarparu cyllid cyfalaf pellach ar gyfer tai cyngor newydd.”